Gwasanaethau Busnes
Dim ots a ydych chi'n fusnes, yn sefydliad o'r sector cyhoeddus neu'n elusen, rydych chi am gadw'ch costau'n isel a gwella'ch cynaliadwyedd.
Ydych chi’n defnyddio mwy na 50 megalitr y flwyddyn?
Fel un o'n cwsmeriaid Dŵr Agored, gallwch newid eich adwerthwr gwasanaethau dŵr glân. Mae’r manylion yma
Cliciwch ymaFel eich cwmni dŵr nid-er-elw, rydyn ni am i bawb ddefnyddio llai o ddŵr. Ry’n ni'n dychwelyd pob un geiniog a wnawn i gynnal a gwella ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.
Ac efallai y synnwch chi faint o arian y gallwch ei arbed, o ystyried bod y busnes cyfartalog yn y DU yn defnyddio 30% yn fwy o ddŵr nag sydd ei angen.
Os ydych chi am leihau eich defnydd o ddŵr yn systemataidd, rydych chi wedi dod i’r lle cywir. Gallwn ni eich helpu chi i arbed arian a gwella effeithlonrwydd trwy amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol, gan gynnwys:
Rheoli cyfrifon
Tîm rheoli cyfrifon pwrpasol i sicrhau eich bod chi'n cael y gwasanaeth a'r cyngor gorau ar gyfer eich busnes.
cliciwch ymaLogio data (telemetreg)
Ffordd fanwl a hyblyg o gofnodi a monitro eich defnydd o ddŵr, diogelu eiddo, a helpu i glustnodi unrhyw ddefnydd gwastraffus o ddŵr neu ollyngiadau.
cliciwch ymaArolygon effeithlonrwydd dŵr
Archwiliad o'r ardaloedd domestig ar safleoedd masnachol (fel tai bach a cheginau) er mwyn helpu i glustnodi arbedion trwy leihau faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio.
cliciwch ymaArchwiliadau o brosesau
Bydd peiriannydd profiadol yn dadansoddi eich defnydd o ddŵr ac ynni, ac unrhyw wastraff er mwyn clustnodi arbedion a darbodaeth y gallwch eu cyflwyno ym mhrosesau cynhyrchu a gweithredol eich safle.
cliciwch ymaCyfnewid Data’n Electronig
Ffordd o dynnu papur o'r broses filio trwy ganiatáu i ddata bilio gael ei anfon yn uniongyrchol o un system gyfrifiadur i un arall.
cliciwch ymaBiosolidau ar gyfer amaeth
Gwrtaith cost-effeithiol a chynaliadwy, sy'n darparu ffynhonnell gwerthfawr o faetholion a mater organig i’w ddefnyddio ar dir amaeth.
cliciwch ymaCyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid busnes
Rhagor o fanylion amdanom ni a sut y gallwn ni eich helpu chi
8.1MB PDF
DadlwythwchCysylltwch
Os oes diddordeb gennych yn ein gwasanaeth rheoli cyfrifon a sut y gallwn ni ychwanegu gwerth at eich busnes, cysylltwch â ni.t
Ewch