Cefnogaeth gyda'ch bil busnes


Rydyn ni’n gwybod bod pethau’n anodd ar fusnesau ar y funud. Os ydych chi’n cael trafferth fforddio eich bil, peidiwch ag anwybyddu’r peth. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwn eich helpu chi a gwneud eich biliau’n fwy fforddiadwy.

Lledwch gost eich bill

Gallwch dalu fesul randaliadau wythnosol, misol neu 6-misol yn hytrach na thalu’n llawn pan gewch eich bil. Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol am ei fod yn lledu’r gost heb orfod talu mwy, mae’r taliadau’n cael eu codi’n awtomatig, ac mae’n dod o fewn ein gwarant Debyd Uniongyrchol. Neu, gallwch drefnu cerdyn talu os nad debyd uniongyrchol yw’r dewis iawn i chi.

Arbedwch arian gyda mesurydd dŵr

Os nad ydych chi’n defnyddio llawer o ddŵr, neu os ydych am leihau eich bil, gallech arbed arian trwy osod mesurydd dŵr fel y byddwch ond yn talu am y dŵr a ddefnyddiwch. Os oes gennych fesurydd dŵr yn barod, yna trwy arbed dŵr, gallwch arbed arian. Mae rhagor o fanylion am sut i ddefnyddio dŵr yn effeithlon yma.

Gofyn am seibiant talu

Os oes arnoch angen ychydig o gymorth, gallwn drefnu cynllun talu fforddiadwy ar eich cyfer. Llenwch y ffurflen hon a byddwn ni’n anelu at roi galwad nôl i chi cyn pen dau ddiwrnod gwaith.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch ag ymgynghorydd

Os oes unrhyw ymholiadau neu bryderon gennych am dalu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm dydd Llun i ddydd Gwener. Rhif ffôn di-dâl yw hwn.