Newid i fesurydd dŵr
A ydych ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, neu’n bwriadu lleihau eich bil? Efallai y byddwch yn arbed arian drwy osod mesurydd dŵr.
Pam newid i fesurydd dŵr?
- Gallech chi arbed arian (po leiaf o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio, yr isaf y bydd eich bil!)
- Byddwn yn ei osod am ddim
- Mae'n helpu i leihau eich ôl troed carbon
Camau gwneud cais am fesurydd
Cyflwynwch gais am fesurydd ar-lein (bydd angen eich cyfeirnod cwsmer wrth law, sydd i’w weld yn y gornel dde ar frig eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif wrth fewngofnodi, neu ar eich cyfeirnod talu os byddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol).
Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i ymweld â'ch eiddo. Byddwn yn gosod mesurydd o fewn 3 mis i dderbyn eich cais (lle bo'n ymarferol i wneud hynny).
Byddwn yn ymweld i wirio a all mesurydd gael ei osod. Os gallwn osod y mesurydd ar ddiwrnod yr ymweliad cyntaf, byddwn yn gwneud hynny.
Beth sy’n digwydd os na allwn osod mesurydd?
Os na allwn osod mesurydd ar ddiwrnod yr ymweliad cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam y bydd angen i ni alw eto. Os na allwn osod mesurydd ond efallai y byddwch yn gallu gwneud rhywfaint o waith i'n galluogi i osod mesurydd (e.e. gosod stop-tap mewnol, amlygu gwaith pibellau), byddwn yn gofyn i chi wneud y gwaith a galw eto i osod y mesurydd ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Os na allwn osod mesurydd o gwbl, ni fydd unrhyw waith yn ei gwneud yn bosibl, byddwn yn dweud wrthych pam ac efallai y byddwn yn eich rhoi ar ein Tâl Mesuredig ar sail Asesiad.
O fewn mis i osod y mesurydd, byddwn yn diweddaru eich cyfrif dŵr a byddwn yn anfon manylion atoch am hyn ac a ydym wedi diwygio unrhyw gynllun talu neu a oes ad-daliad yn ddyledus i chi.