Gwrio ansawdd eich dŵr
Mae cyflenwi dŵr yfed o safon uchel bob amser yn flaenoriaeth i ni. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o gwsmeriaid busnes yn defnyddio’r dŵr maen nhw’n ei gael gennym wrth gynhyrchu eu cynnyrch.
I gynhyrchwyr yn y diwydiant bwyd a diod yn benodol, mae tystiolaethu ansawdd eich cynnyrch o safbwynt iechyd y cyhoedd yn bwysig dros ben.
Oeddech chi’n gwybod bod modd cael adroddiad am ansawdd y dŵr yn eich ardal? Bydd y teclyn cos post isod yn mynd â chi i’n gwasanaeth Yn Eich Ardal. Yn y ‘tab Ansawdd Dŵr’ bydd clicio ar y testun sy’n dweud ‘Gallwch gael rhagor o fanylion am ansawdd eich dŵr yma’ yn lawrlwytho PDF am ansawdd y dŵr yn eich ardal yn awtomatig.