Lwfansau dim dychwelyd i’r garthffos
Rydyn ni’n gwybod na fydd yr holl ddŵr mae cwsmeriaid yn ei ddefnyddio yn dychwelyd i’n carthffosydd. Fel rheol, rydyn ni’n disgwyl tua 95% o ddŵr cwsmeriaid gael ei ddychwelyd i’r carthffosydd. Mae hyn am fod tua 5% o ddŵr cwsmeriaid naill ai’n anweddu neu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel yfed, coginio, golchi’r car a dyfrio planhigion a gerddi.
Os nad yw mwy na 5% o’r dŵr a ddefnyddiwch yn dychwelyd i’n carthffosydd, gallech fod yn gymwys i gael lwfans ‘dim dychwelyd i’r garthffos’ a fydd yn lleihau eich taliadau carthffosiaeth. Fodd bynnag, mae hi’n bwysig nodi taw chi fel ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddangos faint yn union o ddŵr sydd ddim yn dychwelyd i’r garthffos, a rhaid darparu mesuriad i brofi hyn.
Mae yna ragor o fanylion am y lwfans a chymhwysedd yn y cwestiynau cyffredin isod. Pan fydd eich ffurflen, sydd ar waelod y dudalen hon, wedi dod i law, ein nod fydd ymateb cyn pen deg diwrnod gwaith. Gallwn ofyn am ragor o wybodaeth gennych neu ymweld â’ch safle i ddilysu eich hawliad.
Frequently asked questions
Nac ydy, mae hyn ar gyfer dŵr budr yn unig. Dŵr glaw sy’n disgyn ar eiddo ac yn llifo o bibellau draenio, ac oddi ar dreifiau neu lwybrau i mewn i ddraen neu gyli yn y ffordd ac i mewn i’r garthffos gyhoeddus yw dŵr wyneb. Dŵr sy’n dod o’r tu fewn i adeiladau o bethau fel toiledau, sinciau, cawodydd ac ati yw dŵr budr. Mae’r lwfans dim dychwelyd i’r garthffos yn seiliedig ar ddychwelyd llai na 95% o’ch dŵr budr yn unig i’n carthffosydd. Mae rhagor o fanylion am ein had-daliad dŵr wyneb yma. Mae hyn ar gyfer eiddo lle nad oes dŵr wyneb yn draenio i’r garthffos.
Gall unrhyw gwsmer domestig neu fusnes sy’n derbyn cyflenwad mesuredig (h.y. sydd â mesurydd dŵr) gan Ddŵr Cymru wneud cais. Y prif resymau dros beidio â dychwelyd dŵr i’r garthffos yw:
- Anweddiad (e.e. tyrrau oeri, pyllau nofio wedi’u gwresogi, siopau golchi dillad);
- Dyfrio (e.e. canolfannau garddio/clybiau golff/meysydd chwaraeon);
- Gwaredu oddi ar y safle (e.e. glanhawyr ffenestri, gwaredu oddi ar y safle oherwydd seiffon neu lanhau tanciau);
- Ychwanegu at gynnyrch (e.e. gweithfeydd sment, cynhyrchwyr bwyd a diod, ffermydd da byw).
Mae’r gostyngiad safonol o 5% mewn carthffosiaeth eisoes yn cwmpasu defnyddiau fel jacwsis, twbâu twym, pyllau padlo, taenellwyr a phibellau ddyfrio. Ni fydd busnesau fel caffis, bwytai a siopau tecawê yn gymwys am y bydd y dŵr yma’n dychwelyd i’r garthffos trwy gyfleusterau tŷ bach.
Chi sy’n gyfrifol am dystiolaethu faint yn union o ddŵr sydd ddim yn dychwelyd i’r garthffos, felly mae angen i chi gyfrifo union gyfaint y dŵr nad yw’n cael ei ddychwelyd i’r garthffos, ac esbonio sut aethoch ati i gyfrifo hyn. Bydd angen i chi brofi’r mesuriad hwn hefyd, a allai gynnwys gosod eich is-fesurydd preifat eich hun a monitro defnydd dros 12 mis. Os na fyddwch chi’n darparu digon o wybodaeth, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod y lwfans.