Elifiant Masnachol
Elifiant masnachol yw unrhyw beth heblaw am garthffosiaeth ddomestig. Cyn rhyddhau elifiant masnachol i un o’n carthffosydd cyhoeddus, bydd angen ein caniatâd ni.
Beth yw elifiant masnachol?
Unrhyw wastraff hylifol (elifiant) sy’n cael ei ryddhau i’n carthffosydd o fusnes neu broses ddiwydiannol yw elifiant masnachol. Y ffordd orau o’i ddisgrifio yw fel unrhyw beth heblaw am garthffosiaeth ddomestig (gwastraff o’r tŷ bach, y bath neu’r sinc) neu ddŵr wyneb heb ei lygru a dŵr sy’n draenio oddi ar doeau.
Oes angen caniatâd ar fusnesau i ryddhau elifiant masnachol?
Oes. Mae hi’n ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr bod unrhyw fusnes yn cael ein caniatâd ni cyn rhyddhau unrhyw beth i’n carthffosydd cyhoeddus. Mae hyn am fod rhyddhau elifiant yn anghyfreithlon yn gallu cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, difrodi ein carthffosydd, llesteirio ein prosesau trin dŵr gwastraff, a pheri risg sylweddol i iechyd a diogelwch ein gweithwyr.
Pa fathau o ganiatâd sydd yna?
Gallwn roi dau fath o ganiatâd:
- Caniatâd elifiant masnachol, sydd â therfynau uchaf penodol ar gyfer nifer o baramedrau, gan gynnwys llif, ac sy’n amodol ar waith monitro rheolaidd gan ein harolygwyr elifiant masnachol; neu
- Llythyr awdurdodi ar gyfer y busnesau hynny sydd angen rhyddhau ychydig bach o elifiant, boed hynny ar sail achlysurol neu’n ddigwyddiad untro, a lle gellir profi bod yr elifiant yn peri risg isel iawn i’r garthffos a’r gweithfeydd carthffosiaeth a fydd yn ei dderbyn.
Cytundeb cyfreithiol rhyngom ni a’ch busnes yw caniatâd elifiant masnachol neu lythyr o awdurdod, a bydd yn pennu’r terfynau a ganiateir o ran cryfder a chyfaint yr elifiant y cewch ei ryddhau.
Mae angen i fy musnes ryddhau elifiant masnachol. Sut mae cael eich caniatâd?
Gallwch ofyn am ganiatâd trwy lenwi ein ffurflen ymholiad am elifiant masnachol. Cyn bwrw ati, gallai fod yn syniad da casglu’r wybodaeth ganlynol at ei gilydd:
- Casglwch unrhyw ddata samplo sydd gennych sy’n cynnwys o leiaf dadansoddiad o’r galw am ocsigen biolegol, y galw am ocsigen cemegol, y galw am ocsigen cemegol sefydlog, solidau mewn daliant, amonia (wedi ei fesur fel NH4-N), cyfanswm y ffosfforws (wedi ei fesur fel PO4-P), braster, olew a saim, pH a gwahanol fetelau. Gallai mesurau dadansoddi eraill fod yn berthnasol i’ch gweithgarwch busnes hefyd, fel glanedyddion anionig, sylffad, methan a cyanid.
- Cynlluniau draenio, am ei bod hi’n bosibl y bydd angen i ni asesu ac archwilio’ch cynlluniau draenio.
- Sut bwriedir monitro’r llif a ryddheir yn nhermau mesuryddion.
- Y cyfaint y bwriedir ei ryddhau mewn metrau ciwbig y dydd, a’r llif uniongyrchol uchaf.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy ffurflen ymholiad?
Ar ôl prosesu eich ymholiad, byddwn ni’n anfon dogfen o’r enw ‘ffurflen manylion cychwynnol’ atoch i chi ei llenwi a’i hanfon nôl atom trwy e-bost (neu’r post), ynghyd â gwybodaeth ategol arall.
Pan fydd eich ffurflen manylion cychwynnol yn dod i law, byddwn ni’n asesu pa mor dderbyniol yw’r deunydd i’w ryddhau i’r garthffos, y gorsafoedd pwmpio a’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff o dan sylw.
I fusnesau sy’n ymdrin â chemegolion gwenwynig dros ben fel cromiwm, plwm, sinc, cadmiwm a cyanid ymysg eraill, mae’n ofynnol i ni gyflawni asesiad mwy cynhwysfawr o’r risg amgylcheddol, felly gallai ein penderfyniad gymryd yn hirach.
Gwneir hyn oll fesul achos, ac ni allwn warantu y bydd yna gapasiti ar gyfer elifiant eich busnes, ond mae hi’n bosibl y gallwn gynnig darpariaeth ar gyfer rhyddhau cyfaint a chryfder is.
Os yw’r risg o dderbyn y deunydd a ryddheir yn dderbyniol, byddwn ni’n anfon hysbysiad neu gais ffurfiol atoch. Rhaid i chi lofnodi a dyddio’r hysbysiad a’i ddychwelyd i ni er mwyn i ni anfon dogfennaeth ‘Caniatâd i Ryddhau’ ffurfiol atoch a fydd yn caniatáu i chi ryddhau’r gwastraff.
Pa gostau sydd ynghlwm wrth ofyn am ganiatâd elifiant masnachol a phryd mae angen talu’r rhain?
Nid oes unrhyw gostau o’r bron, ac ni fyddwn ni’n codi tâl arnoch os na fyddwn ni’n rhoi’r caniatâd. Bydd manylion y ffi yn ein rhestr o daliadau a chaiff ei hadolygu’n flynyddol.
Cwestiynau cyffredin am elifiant masnachol
Cytundeb cyfreithiol rhyngom ni a’ch busnes yw hyn sy’n nodi’r cyfyngiadau a ganiateir o ran cryfder a chyfaint yr elifiant y gellir ei ryddhau.
Mae pob cais yn cael ei adolygu’n unigol. Rydyn ni’n pennu cyfyngiadau penodol ar ganiatâd elifiant masnachol o ran ei gyfaint, llwyth organig, braster, olew a saim, deunyddiau solet mewn daliant, maetholion, pH, metelau gwenwynig, sylffad, sylffid, methan, cyanid, sylweddau eraill a reolir a halogyddion eraill sy’n peri risg yn dibynnu ar gapasiti ein rhwydwaith o garthffosydd a’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff a fydd yn ei dderbyn.
Eich cyfrifoldeb chi fel y busnes sydd am ryddhau’r elifiant yw cael ein caniatâd ni. Nid ein cyfrifoldeb ni yw clustnodi o ble mae’r elifiant masnachol yn dod.
Byddwn ni’n monitro cydymffurfiaeth elifiant masnachol mewn dwy ffordd, sef:
i) Cryfder – canlyniadau cyfartalog gwaith samplo ar hap gan ein harolygwyr elifiant masnachol (yn erbyn y terfynau a ganiateir)
ii) Cyfaint – a gofnodir gan ddefnyddio mesurydd llif, neu gyfrifiad sy’n seiliedig ar y dŵr a gofnodwyd yn dod i mewn (yn erbyn y terfynau a ganiateir).
Rydyn ni’n monitro cydymffurfiaeth â’r llythyrau awdurdodi yn yr un modd, ond ar sail ad-hoc yn ôl yr angen.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio â chyfyngiadau eich caniatâd neu’ch llythyr awdurdodi elifiant masnachol; a rhaid cofio taw cytundeb cyfreithiol yw hi. Os ydych chi’n cynllunio mynd dros y terfynau a ganiateir, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a byddwn ni’n eich cynghori lle bo modd. Os gwelwn ni fod eich busnes yn mynd y tu hwnt na’r terfynau a ganiateir, byddwn ni’n cysylltu â chi.
Os ydych am ryddhau unrhyw gynnyrch darfodus, rhaid cysylltu â ni cyn ei ryddhau i’n rhwydwaith o garthffosydd. Yn ogystal â chael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, mae rhyddhau unrhyw beth yn anghyfreithlon yn drosedd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Byddwn ni’n gorfodi ein dyletswyddau rheoliadol o ran monitro ein rhwydwaith am elifiant anghyfreithlon sy’n niweidio’r amgylchedd, a gallai hynny gynnwys eich erlyn am droseddau amgylcheddol.
Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i beidio â defnyddio’r garthffos i gael gwared ar ddŵr wyneb. Os nad yw dŵr wyneb wedi ei lygru, y peth gorau i’w wneud yw ei ddychwelyd i’r amgylchedd, a bydd angen i chi ymgynghori â’r rheoleiddiwr amgylcheddol perthnasol yn eich ardal yn hynny o beth.
Lle rhoddir caniatâd elifiant masnachol, mae’r biliau elifiant masnachol yn cynnwys tâl sefydlog a thaliadau amrywiol sy’n amrywio yn ôl y cyfaint a chryfder yr elifiant a ryddheir. Anfonir biliau elifiant masnachol fel ôl-daliad naill ai’n fisol, yn chwarterol neu’n chwe-misol yn dibynnu ar y tâl misol cyfartalog. Bil penodedig fydd hwn, a bydd ar wahân i fil dŵr a charthffosiaeth ddomestig eich busnes. Lle rhoddir llythyr awdurdodi, caiff elifiant masnachol ei filio yn yr un modd â charthffosiaeth ddomestig.
Lle rhoddir caniatâd elifiant masnachol, cyfrifir biliau elifiant masnachol gan ddefnyddio fformwla ‘Mogden’ safonol y diwydiant dŵr. Mae hynny’n golygu bod biliau’n uniongyrchol gysylltiedig â chryfder y samplau (ac yn benodol ‘COD - y galw am ocsigen cemegol’ ac ‘SS - solidau mewn daliant’) a chyfaint yr elifiant masnachol a ryddheir.
Lle rhoddir llythyr awdurdodi, caiff elifiant masnachol ei filio yn yr un modd â charthffosiaeth ddomestig.
Mae rhagor o fanylion yn ein rhestr o daliadau.
Lle rhoddir caniatâd elifiant masnachol, defnyddir cryfder y sampl a chyfaint yr elifiant masnachol sy’n cael ei ryddhau i gyfrifo biliau, a hynny’n annibynnol ar a ystyrir bod y cryfder a/neu’r cyfaint yn cydymffurfio â chaniatâd elifiant masnachol eich busnes ai peidio, h.y. bydd lleihau cyfaint/COD/SS elifiant masnachol eich busnes yn dal i leihau’r biliau er eu bod eisoes o fewn y terfynau a ganiateir. Lle rhoddir llythyr awdurdodi, caiff elifiant masnachol ei filio yn yr un modd â charthffosiaeth ddomestig, a hynny’n annibynnol ar a ystyrir bod y cryfder a/neu’r cyfaint yn cydymffurfio â llythyr awdurdodi eich busnes ai peidio.
Nac ydy, nid yw llenwi ffurflen ymholiad am elifiant masnachol gyfystyr â hysbysiad ffurfiol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen ymholiad yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â’r cam nesaf yn y broses ymgeisio.
Ni ellir trosglwyddo caniatâd neu lythyr awdurdodi elifiant masnachol rhwng safleoedd neu fusnesau. Bydd angen i chi ymgeisio am ganiatâd ar wahân neu un newydd.
Os oes angen i chi ehangu’ch busnes ac nad yw’r caniatâd neu’r llythyr awdurdodi cyfredol yn addas at y pwrpas, bydd angen i chi ofyn am adolygiad am y bydd angen i ni asesu a oes yna ddigon o gapasiti yn ein rhwydwaith o garthffosydd a’r gweithfeydd trin carthffosiaeth o dan sylw i ddarparu ar gyfer y cynnydd posibl yn y llif a/neu’r llwyth. Cysylltwch â ni cyn i’r busnes ehangu.
Angen rhagor o wybodaeth o hyd?
Os oes gennych gwestiynau sydd heb eu hateb o hyd, e-bostiwch ein tîm elifiant masnachol ar Trade.Effluent@dwrcymru.com