Effeithlonrwydd Dŵr ar gyfer eich busnes


Croeso i'ch hyb un stop am gyngor am ffyrdd i’ch busnes arbed dŵr ac arian a gofalu am y blaned.

Cynghorion ar

arbed arian

Ry’n ni'n gwybod eich bod chi’n awyddus i gadw costau'n isel a gwella eich cynaliadwyedd.

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau a sefydliadau'n gwybod faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio, ond efallai na fyddan nhw'n defnyddio'r wybodaeth yma i'w cynorthwyo i leihau eu defnydd o ddŵr.

Dyma ein i arbed dŵr yn y gwaith:

  1. Sicrhewch fod gennych fesurydd dŵr fel y gallwch olrhain eich defnydd o ddŵr i arbed dŵr ac arbed arian. Gwnewch gais yma am fesurydd dŵr.
  2. Cadwch lygad ar eich biliau am ddefnydd anarferol o uchel, a sicrhewch fod y darlleniad ar eich bil yn cyd-fynd â’r darlleniad ar eich mesurydd.
  3. Cymrwch ddarlleniadau rheolaidd o'ch mesurydd dŵr (os yw'n ddiogel gwneud hynny), bydd hyn yn eich cynorthwyo i ddeall eich defnydd o ddŵr a sylwi ar unrhyw ollyngiadau posibl.
  4. Cadwch lygad am bibellau dŵr sy'n gollwng o dan y ddaear a gollyngiadau ar y systemau plymio mewnol, tapiau awyr agored, ac ar offer taenellu a chwistrellu. Dysgu mwy.

  5. Trwsiwch dapiau a systemau gorlif sy'n gollwng a chadwch lygad ar adeiladau a phibellwaith y tu hwnt i'r prif adeilad fel y byddwch chi'n sylwi os bydd dŵr yn gollwng.

  6.  
  7. Gwiriwch fod yr holl ddyfeisiau sy'n defnyddio dŵr yn gweithio'n gywir, megis toiledau, troethfeydd a falfiau pêl ar gyfer diferion neu fflysio cyson sy'n cynyddu'r defnydd o ddŵr.

  8.  
  9. Insiwleiddiwch y pibellau fel nad ydyn nhw mewn perygl o rewi a hollti mewn tywydd oer.
  10. Uwchraddio eich cyfleusterau toiled i leihau'r defnydd o ddŵr. Mae tair ffordd y gellir gwneud hyn:
  • Gallwch leihau faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio wrth fflysio bob tro trwy osod dyfais dadleoli yn y seston.
  • Os oes gennych seston â fflysh deuol, gosodwch nodyn mewn lle clir i esbonio sut i ddefnyddio'r ddau fflysh er mwyn atal defnydd amhriodol a gwastraff.
  • Efallai y bydd tai bach newydd yn gorlifo neu'n gollwng dŵr i'r pan yn uniongyrchol, ac nad fydd neb yn sylwi neu'n meddwl dim amdano. Cadwch lygad am ollyngiadau ar dai bach sy'n gorlifo'n fewnol.
 

9. Prynwch offer sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon

  • Chwiliwch am nodweddion effeithlonrwydd dŵr wrth brynu unrhyw beiriannau, offer neu brosesau newydd.
  • Gall offer chwistrellu pwysedd uchel ddefnyddio llai o ddŵr na phibellau confensiynol am eu bod yn defnyddio pwysedd uchel i lanhau yn lle llawer o ddŵr.

10. Addysgu'r holl staff ar effeithlonrwydd dŵr fel y gallant fod yn barod i arbed dŵr. Gallai hyn gynnwys:

  • Adolygwch eich defnydd o ddŵr unwaith bob blwyddyn a lluniwch gynllun i leihau defnydd.
  • Cyflwyno mentrau effeithlonrwydd dŵr i staff a chael cefnogaeth gan reolwyr.
  • Edrych ar sut i ymgorffori mentrau yn eich polisi amgylcheddol ehangach.

11. Gosodwch bosteri arbed dŵr ar gyfer cwsmeriaid a staff. Rydym eisoes wedi creu rhai i chi eu hargraffu a dechrau eu defnyddio heddiw. Cliciwch yma.

Yn y busnes o arbed dŵr

PDF, 1.1MB

Taflen fanwl sy'n esbonio beth y gallwch ei wneud i arbed dŵr yn eich busnes.

Awgrymiadau a chynghorion arbed dŵr i'ch busnes

PDF, 326.8kB

Taflen hwylus sy'n cynnig cyngor sylfaenol ar ffyrdd o leihau eich bil dŵr.

Gwasanaethau busnes

Mae yna amrywiaeth o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth yr ydym yn codi tâl amdanynt ar gael i'n cwsmeriaid busnes hefyd - o logio data i archwilio prosesau.

Cliciwch yma