Rheoli eich Cyfrif Busnes Dŵr Cymru ar-lein
Nid yw edrych ar ôl eich cyfrif bilio di-bapur erioed wedi bod yn haws!
Manteision Fy Nghyfrif
Bydd cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif hefyd yn golygu y byddwch chi’n derbyn eich bil ar-lein ac nid drwy’r post. Yn hytrach, byddwch yn gallu gweld eich bil ar unwaith yn eich cyfrif ar-lein diogel ar unrhyw adeg. Byddwn yn anfon e-bost neu neges destun atoch i roi gwybod i chi fod eich bil neu lythyrau ar gael hefyd.
Gweld gwybodaeth eich cyfrif am falans, biliau, taliadau a llythyrau ar-lein. Byddwch chi hefyd yn gallu lawrlwytho biliau diweddar i’w hargraffu gartref.
Os ydych chi’n defnyddio mesurydd dŵr, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd angen i chi ei ddarllen. Rydym ni wedi ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i chi gyflwyno’r darlleniad ei hun hefyd!
Sefydlu debyd uniongyrchol i dalu eich bil neu newid y dyddiad a’r manylion banc ar gyfer eich debyd uniongyrchol gweithredol.
Gwneud taliad ar-lein ar gyfer eich cyfrif ac arbed amser drwy basio ein gwiriadau diogelwch.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw broblemau yn effeithio ar eich ardal chi (er enghraifft, os oes pibell wedi byrstio neu argyfwng yn eich ardal chi). Yna gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a chofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd drwy e-bost
Os oes gennych fesurydd dŵr, gallwch gymharu eich defnydd chi â defnydd cyfartalog eiddo o’r un maint, gan roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud unrhyw newidiadau i’ch defnydd ac arbed arian, dŵr a’r amgylchedd!
Cwestiynau cyffredin
Os ydych chi'n gwsmer bilio cyfunol, gallwch weld eich bil trwy fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Mil yma.
Os ydych chi'n gwsmer Cyfnewid Data’n Electronig, gallwch weld eich bil trwy fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Mil yma.
Os ydych chi'n gwsmer Open Water, gallwch weld eich bil drwy fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Mil yma.
Gallwch. Os ydych yn gyfrifol am fwy nag un cyfrif, gellir eu cysylltu a'u gweld ar yr un dangosfwrdd.
Gallwch ddadgofrestru o Fy Nghyfrif ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen we ar-lein.