Network Rail astudiaeth achos cwsmer


Mae Network Rail yn berchen ar, yn gweithredu ac yn datblygu seilwaith rheilffyrdd Prydain, gan gynnwys 20,000 milltir o draciau, 30,000 o bontydd, twneli a thraphontydd, a miloedd o signalau, croesfannau rheilffyrdd a gorsafoedd.

Yr Her

Fel Rheolwr Ynni a Charbon rhanbarth Cymru a’r Gorllewin, mae Adam De Benedictis yn gyfrifol am reoli cyfleustodau’r cwmni ac ymarfer rheolaeth dda ar asedau o fewn ardal weithredol y cwmni yng Nghymru. Network Rail yw defnyddiwr trydan mwyaf y DU, a blaenoriaeth Adam yw lleihau defnydd y cwmni o’r cyfleustodau.

Am fod rôl Adam yn un newydd, sylweddolodd yn syth ar ôl dechrau fod dŵr yn mynd i fod yn adnodd arbennig o anodd ei leihau. Nid oedd gan Network Rail wybodaeth dda iawn am ymhle roedd eu hasedau a’u pibellau dŵr, faint o ddŵr oedd yn cael ei ddefnyddio’n hanesyddol, neu a oedd unrhyw ddŵr yn gollwng o fewn yr ystâd dŵr. Cyn y gallai fynd ati i edrych ar ffyrdd systemataidd o leihau faint o ddŵr oedd yn cael ei ddefnyddio ar draws y sefydliad, roedd angen iddo gael dealltwriaeth fanylach o lawer o’i bortffolio dŵr.

Er mwyn gwneud hynny, roedd angen meithrin perthynas ymatebol a gwydn â Dŵr Cymru yn wyneb y dasg anferth oedd o’i flaen i lanhau ystâd dŵr Network Rail.

Yr Ateb

Fe glustnodon ni reolwr cyfrif pwrpasol i Adam, i weithredu fel pwynt cyswllt gwybodus ar gyfer ymholiadau. Er mwyn rhoi trosolwg da o’i gyfrifon dŵr i Adam, fe gychwynnon ni ymarfer glanhau data er mwyn mynd at wraidd ei bortffolio dŵr go iawn. Roedd hyn yn cynnwys ei gynorthwyo i gategoreiddio mathau o asedau, gan edrych ar ddefnydd, a deall o ble roedd y gollyngiadau’n dod.

Trwy fynd trwy’r broses honno, gyda’n gilydd fe glustnodon ni 23 o gyfrifon, oedd naill ai’n segur, neu oedd wedi eu haseinio ar gam i Network Rail yn hytrach na busnes arall. Daeth hyn â’i ystâd i lawr o 69 cyfrif i 46, oedd yn fwy hydrin o lawer, ac yn bwysicach na hynny, yn golygu nad oedd Network Rail yn talu am gyflenwadau dŵr cwmnïau eraill mwyach. Rhoddodd hyn drosolwg clir o’r ystâd dŵr i Adam, fel y gallai ddechrau canolbwyntio ar brosiectau mwy uchelgeisiol, yn hytrach na datrys hen broblemau o fewn yr ystâd.

Ei reolwr cyfrif sy’n gweithredu fel ei brif bwynt cyswllt, felly mae’n gallu helpu gydag unrhyw ymholiadau gan gydweithwyr Adam ar draws safleoedd Network Rail. Oherwydd hyn, lle mae problemau wedi codi, mae Adam wedi gallu gweithio gyda ni i’w datrys nhw’n gyflym.

Dywedodd Adam: “Cawsom broblem lle’r oedd tanwydd wedi mynd i’r cyflenwad dŵr ar un safle yn y gogledd. Rhoddodd fy rheolwr cyfrif gymorth i ni neilltuo’r cyflenwad a phrofi’r dŵr ar unwaith. Yn bwysicach na hynny, rhoddodd gymorth i ni amddiffyn ein staff a sicrhau eu bod nhw’n iach ac yn ddiogel. Darganfu ymchwiliadau ar y safle bod y cyflenwad yn cael ei ddefnyddio gan gwmni arall hefyd, a doedd dim syniad gennym eu bod ar ein cyflenwad ni! O wybod hyn, bu modd gwahanu’r cyflenwadau er mwyn sicrhau ein bod ni’n talu am y dŵr mae Network Rail yn ei ddefnyddio yn unig.”

Rydyn ni wedi gallu cynnig biliau cyfunol i Adam hefyd, lle rydyn ni’n crynhoi pob un o’i 46 cyfrif yn un bil misol hwylus. Gyda’i feddalwedd dilysu, gall ddilysu’r data’n gyflym i weld a oes unrhyw broblemau, sy’n ei gynorthwyo i reoli ei bortffolio’n effeithiol.

Buddion

Mae perthynas Adam â Dŵr Cymru a’i reolwr cyfrif wedi dod â manteision aruthrol:

  • Arbed arian — Mae hyn, ynghyd â gwaith arall Adam, wedi dod ag arbedion o £1.6m ar draws portffolio dŵr a thrydan Network Rail yng Nghymru
  • Rhyddhau amser — Gall Adam ganolbwyntio ar brosiectau rhagweithiol i leihau’r defnydd o ddŵr ac ynni nawr fod trefn ar ei ystâd dŵr
  • Mae problemau’n cael eu datrys yn gyflym — Diolch i’r sianeli cyfathrebu clir â rheolwr ei gyfrif, gall Adam drosglwyddo unrhyw ymholiad gan wybod y caiff ateb prydlon

Adam De Benedictis

Rheolwr Ynni a Charbon Network Rail yng Nghymru


Fe etifeddais i ystâd dŵr digon trwsgl, oedd yn gofyn am fynd at wraidd y cyfan er mwyn gwella manylder ein data dros gwrs tua 18 mis. Mae tîm Dŵr Cymru wedi bod yno i fi ar bob cam o’r ffordd, ac mae hyn wedi gadael i mi symleiddio fy ystâd dŵr yn sylweddol, gan arbed digon o arian yn y broses. O’r diwedd mae gen i afael da ar y materion dŵr.

Mae fy mherthynas â’r rheolwr cyfrif wedi bod yn anhygoel — mae’r ymatebolrwydd a’r effeithlonrwydd wir wedi gwella ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r rheolwr cyfrif yn awyddus i ddatrys ein problemau’n gyflym wrth gadw un llygad ar y darlun mawr. Rwy’n gallu ymddiried ynddyn nhw i ddelio ag ymholiadau gan fy nghydweithwyr hefyd. Diolch i’r berthynas sydd gennym â Dŵr Cymru, mae Cymru bellach yn arwain y ffordd yn nhermau rheoli dŵr yn Network Rail.