Nuaire Astudiaethau achos


Mae Nuaire yng Nghaerffili wedi bod yn darparu aer glân ers dros 50 mlynedd gyda systemau awyru ar gyfer adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol.

Thomas Tudor, Cydlynydd Cynnal a Chadw, Nuaire

Cafodd fy rheolwr alwad gan Dŵr Cymru yn dweud eu bod wedi sylwi bod defnydd dŵr ein cwmni wedi cynyddu tua 50% yn ystod y misoedd diwethaf. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni’n ymwybodol ac yn gofyn a oedd unrhyw reswm da dros hynny, neu a oedd yn annisgwyl. O ystyried bod y pandemig wedi effeithio ar ein cwmni, ac ar y pryd nid oedd gennym ni bopeth nôl yn gweithredu’n llawn, roedden ni wedi’n synnu’n fawr.

Gwnaethon nhw anfon peiriannydd y diwrnod canlynol i weld beth oedd yn digwydd. Gwnaethon nhw gadarnhau nad oedd problem ar ochr Dŵr Cymru o’r bibell gyflenwi, a’i bod yn ymddangos bod problem ar ein hochr ni. Ar y safle hwn yn benodol, o ystyried mai canolfan ddosbarthu ydoedd yng Nghaerffili gyda llai o staff yn gweithio yno o’i gymharu â safleoedd eraill, ni ddylai fod llawer o ddŵr yn cael ei ddefnyddio. Dim ond cwpl o flociau toiledau oedd yno mewn gwirionedd. Pan wnaethon ni archwilio, roedd dau o’r sestonau yn rhedeg yn gyson ac roedd gennym ni ollyngiadau ar y tanciau hefyd. Y rheswm nad oedden ni’n ymwybodol cyn galwad Dŵr Cymru oedd oherwydd nad oedden nhw’n cael eu defnyddio, oherwydd nad oedden ni nôl yn gweithredu’n llawn ar ôl y pandemig.

Mae’r gefnogaeth yr ydym wedi’i chael gan Dŵr Cymru wedi bod yn wych. Daethon nhw allan atom yn syth a nawr rydyn ni wedi llwyddo i drwsio’r gollyngiadau. Ni fyddem wedi sylwi heblaw eu bod wedi cysylltu â ni. Rydyn ni nawr wedi arbed llawer o arian ar ein biliau, sydd bob amser i’w groesawu ond yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw a chostau ynni a’n cadwyn gyflenwi yn cynyddu hefyd.