Archwiliadau o Effeithlonrwydd Dŵr


Fel llawer o fusnesau eraill, mae'n debygol eich bod chi'n defnyddio dŵr ar gyfer gweithgareddau o fath 'domestig', fel toiledau, tapiau a chawodydd.

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n gwybod faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio, ond yn aml, nid ydyn nhw'n gwybod sut i ddefnyddio'r wybodaeth yma i leihau eu defnydd.

Mae gennym arolwg effeithlonrwydd dŵr sylfaenol y gallwch ei lawrlwytho am ddim ar waelod y dudalen hon. Cofiwch hefyd ein bod ni'n cynnig cyngor am ddim trwy ein porth cymorth a chyngor

Os hoffech chi gael rhagor o gymorth, gallwn arolygu'r ardaloedd domestig yn eich busnes er mwyn helpu i glustnodi arbedion ac effeithlonrwydd trwy leihau faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio.

Dyma ffordd gyflym a hwylus o gael tawelwch meddwl - neu i ddod i wybod am gymhlethdodau a'u trwsio.

Sut mae hyn yn gweithio?

Bydd aelod o'n tîm yn adolygu eich defnydd cyfredol o ddŵr ac elfennau penodol o'r gosodiadau dŵr ym mhob un o'ch safleoedd.

Mae ein harolygon yn cynnwys detholiad o'r gweithgareddau canlynol, a fydd yn helpu i glustnodi pa gyfarpar sydd ei angen ar eich busnes i fod yn fwy effeithlon o ran ei ddefnydd o ddŵr:

  • Cyflawni archwiliad cyffredinol o’ch systemau dŵr domestig
  • Dadansoddi darlleniadau o’r mesuryddion er mwyn canfod y patrymau cyfredol o ran eich defnydd o ddŵr
  • Clustnodi is-fesuryddion eich safleoedd
  • Asesu a oes dŵr yn gollwng ar yr wyneb ac o dan y ddaear, ac os felly, faint
  • Asesu mecanweithiau rheoli sestonau troethfeydd
  • Cyflwyno sylwadau ar drefniadau rheoli dŵr os yw hynny'n briodol
  • Crynhoi'r holl arbedion dŵr posibl

Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?

  • Os nad ydych wedi defnyddio dull systemataidd o leihau eich defnydd o ddŵr erioed o'r blaen, yna gallech gwtogi rhyw 20-50% ar eich defnydd o ddŵr trwy ddilyn argymhellion yr arolwg
  • Gall hyn helpu i leihau eich biliau dŵr a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd hefyd

Pa fath o fusnes allai elwa?

  • Gallai unrhyw fusnes bach â llond llaw o safleoedd, neu fusnesau mwy sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut y gallant leihau faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio at ddibenion domestig, elwa ar hyn
  • Os ydych chi'n fusnes mwy sy'n defnyddio dŵr o fewn eich prosesau, yna hwyrach y byddwch am gyfuno eich arolwg effeithlonrwydd dŵr ag archwiliad o brosesau
Generic Document Thumbnail

Hunanasesiad effeithlonrwydd dŵr i fusnesau bach

PDF, 322kB

Dyma ganllaw am ddim i gyflawni hunanasesiad o effeithlonrwydd dŵr o fewn eich busnes.

Generic Document Thumbnail

Taflen arolwg effeithlonrwydd dŵr

PDF, 538.6kB

Dyma daflen sy'n cynnig rhagor o fanylion am ein gwasanaeth arolygu effeithlonrwydd dŵr.