Logio data


Y cam cyntaf ar eich siwrnai i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon yw deall eich defnydd ar hyn o bryd. Ond os oes gennych sawl safle, neu os nad yw'n rhwydd cyrraedd at eich mesuryddion yn rheolaidd, yna mae hyn yn gallu bod yn anodd ei reoli.

Gall ein gwasanaeth logio data, neu delemetreg, eich helpu chi i ddeall eich defnydd o ddŵr. Trwy gael gwell dealltwriaeth o'ch patrymau defnydd, gall fod yn haws clustnodi unrhyw ddefnydd gwastraffus o ddŵr.

Mae hi'n ffordd fanwl a hyblyg o gofnodi a monitro defnydd, diogelu safleoedd a helpu i glustnodi gollyngiadau.

Sut mae hyn yn gweithio?

Caiff offer monitro dŵr ei gysylltu â'ch mesurydd dŵr, a fydd yn eich galluogi i dracio'r defnydd o ddŵr ar eich safle.

Bydd yr offer yn cofnodi gwybodaeth o'ch mesurydd dŵr ac yn ei throsi'n ddata llif. Wedyn caiff y data ei drosglwyddo i wefan lle gallwch fewngofnodi i fonitro llif eich dŵr a'ch defnydd. Dyma esiampl o'r math i graff y gallwch ei weld, sy’n rhoi dadansoddiad o'ch defnydd o ddŵr fesul awr.

Byddwch chi'n gallu tracio eich defnydd o ddŵr ar gipolwg, gan eich galluogi i sylwi ar unrhyw broblemau posibl fel gollyngiadau, a delio â nhw'n gyflym ac yn effeithlon. Gallwch godi'r wybodaeth a'i rhannu â'r bobl berthnasol yn eich busnes hefyd.

Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?

  • Mae'n eich galluogi chi i greu darlun o'ch defnydd o ddŵr. Bydd y tueddiadau hyn yn eich helpu chi i ddeall eich defnydd, clustnodi pryd mae’r lefelau defnydd yn uchel, cyfnodau prysur a thawel a llif gwaelodlin.
  • Gall y darlleniadau awtomatig yma helpu i glustnodi gwastraff neu ollyngiadau. Byddan nhw'n sicr o ddarparu data gwaelodlin fel y gallwch optimeiddio eich defnydd o ddŵr a sicrhau eich bod chi'n rheoli eich dŵr mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
  • Bydd y swyddogaeth larymau yn eich galluogi i osod a derbyn larymau pan fo lefelau'r llif yn anghyffredin.
  • Gallwch gyrchu darlleniadau awtomataidd dyddiol heb fod angen mynd i siambr y mesurydd i gael darlleniadau ffisegol, gan ddileu'r risgiau cysylltiedig o ran iechyd a diogelwch.

 

Pa fath o fusnes allai elwa?

  • Unrhyw fath o fusnes sydd am gyrchu ei ddata am ddefnydd yn rhwydd yn y fan a'r lle
  • Gall busnes o unrhyw faint ei ddefnyddio
     

Astudiaeth achos: Cofnodi data mewn cwmni trafnidiaeth

Fe weithion ni gyda chwmni trafnidiaeth allweddol er mwyn lleihau ei ddefnydd o ddŵr yn sylweddol. Fe osodon ni logwyr data ar eu holl gyflenwadau dŵr.

Galluogodd hyn y cwmni i glustnodi safleoedd lle'r oedd defnydd o ddŵr nad oedd y cwmni’n ymwybodol ohono, a darganfuwyd bod hyn yn wir ar sawl safle. Ar ôl ymchwilio i'r peth, ffeindiwyd bod dŵr yn gollwng mewn mannau, ac yn y pen draw, arbedodd y cwmni 53,000m³ o ddŵr y flwyddyn; â’r gost yn ei wrthbwyso’i hun mewn llai na dau fis ar gyfartaledd.

O ganlyniad i'r gwaith yma, mae'r cwmni bellach yn monitro defnydd mewn ffordd fwy effeithiol, yn canfod gollyngiadau'n gynt (gan ddefnyddio'r swyddogaeth larymau) ac yn cadw gwastraff a chostau i’r lefel isaf bosibl.

Taflen logio data

PDF, 3.4MB

Dyma daflen sy'n cynnig rhagor o wybodaeth i chi am sut y gallai logio data helpu eich busnes