Rheoli cyfrifon


Rydyn ni am ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl i chi gysylltu â ni am bob math o resymau, am fod digon ar eich plât

Dyna pam ein bod ni'n darparu gwasanaeth rheoli cyfrifon pwrpasol ar eich cyfer i sicrhau eich bod chi'n cael y gwasanaeth a'r cyngor gorau ar gyfer eich sefydliad.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Busnes yma i gynnig gwasanaeth rheoli cyfrifon am ddim i gwsmeriaid busnes — gan weithredu fel yr unig bwynt cyswllt sydd ei hangen arnoch.

Bydd ein tîm gwybodus a phrofiadol yn eich cynorthwyo i reoli dŵr eich ystâd. Dim ots a yw'ch ymholiad yn ymwneud â bilio, gweithrediadau neu'n gwestiwn cyffredinol, os na allwn ni helpu, fe ffeindiwn ni rhywun sydd yn gallu.

Cofiwch ein bod ni'n cynnig cyngor am ddim ar ein porth cymorth a chyngor hefyd.

Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?

Pa fath o fusnes allai elwa?

  • Unrhyw fath o fusnes â sawl safle
  • Dim ots beth yw natur eich busnes, boed yn westy neu'n ffatri fawr, os oes sawl safle gennych, yna gallai fod o gymorth i chi fod ag un pwynt cyswllt penodol â ni
Generic Document Thumbnail

Taflen amdanom ni

Mae'r Tîm Gwasanaethau Busnes yma i gynnig gwasanaeth rheoli cyfrifon am ddim i gwsmeriaid busnes. Mae rhagor o fanylion yma


8.1MB PDF

Lawrlwytho