Cyfnewid Data'n Electronig


Rydyn ni am weithio gyda busnesau mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr bob tro.

Rydyn ni'n cynnig sawl opsiwn bilio gwahanol ar eich cyfer, gyda'r hyblygrwydd i chi ddewis pa un sy'n gweithio orau i'ch busnes chi. Yn ogystal â biliau papur a biliau cyfansawdd, rydyn ni'n cynnig biliau cyfenwid data’n electronig (EDI) hefyd.

Mae EDI yn caniatáu i ddata bilio gael ei anfon yn union o un system gyfrifiadur i'r llall, gan ddileu papur, byrhau amserau prosesu a lleihau'r costau sy'n gysylltiedig â phrosesu â llaw.

Sut gallai hyn fod yn fuddiol i chi?

  • Gall gyflymu eich amserau prosesu
  • Gall gwtogi ar y costau a'r amser sy'n gysylltiedig â phrosesu â llaw
  • Gallwch gyrchu data bilio manwl-gywir yn y fan a'r lle
  • Am ei fod yn dileu'r angen am ddefnyddio papur, mae'n gwella eich statws amgylcheddol hefyd

Pa fath o fusnes allai elwa?

  • Er mwyn manteisio ar EDI, rhaid i chi fod yn gwsmer busnes â 10 neu ragor o safleoedd o fewn ardal weithredol Dŵr Cymru yng Nghymru a Sir Henffordd.
  • Rhaid i chi fod yn gallu derbyn a phrosesu protocol TRADACOMS 26 fersiwn 3
  • Nid yw hyn yn addas i gyfrifon elifiant masnachol

Sut i wneud cais

Os oes diddordeb gennym mewn EDI, llenwch y ffurflen gais EDI isod. Neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â'n Tîm Bilio Masnachol yn:
edi@dwrcymru.com.

 

 

Cwestiynau Cyffredin

EDI Telerau ac Amodau

PDF, 263.6kB