Cymorth a chyngor i swyddfeydd


Dim ots a ydych chi’n weithiwr sy’n ymwybodol o’ch defnydd o ddŵr, yn rheolwr swyddfa neu’n gweithio ym maes cyfleusterau, mae hi’n gallu bod yn anodd arbed dŵr mewn adeilad swyddfa. Fodd bynnag, mae hi’n werth gwneud, am y gall hyn gwtogi’n sylweddol ar gost eich biliau dŵr a helpu i leihau effaith eich sefydliad ar y blaned. Isod mae ychydig o wybodaeth ddefnyddiol rydyn ni wedi ei gronni yn benodol ar gyfer adeiladau swyddfa.

Hyrwyddo ymddygiad sy’n arbed dŵr

Gyda nifer fawr o staff ac ymwelwyr yn defnyddio’ch adeilad, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli ymddygiad defnyddwyr.

Gyda’r amrywiaeth o bosteri arbed dŵr y gallwch eu lawrlwytho yma, gallwch ddylanwadu ar eich staff a/neu cwsmeriaid i roi gwybod oes toiled neu rywbeth arall yn gollwng, ac i ddefnyddio’r fflysh bach.

Yr allwedd yw addysgu staff am gost dŵr a’r effaith ehangach y gallai gwastraffu dŵr ei chael ar y busnes.

Yn y gegin neu’r cantîn

Defnyddiwch beiriant golchi llestri yn lle golchi platiau a chwpanau ar wahân. Mae peiriannau golchi llestri modern yn dueddol o ddefnyddio llai o ddŵr o lawer na golchi â llaw.

Llenwch bowlen â dŵr yn hytrach na gadael i’r tap rhedeg a gwastraffu’r dŵr i lawr y plwg.

Bydd teclyn dosbarthu dŵr oer yn golygu bod dŵr oer ar gael i weithwyr yn y fan a’r lle yn hytrach na bod angen iddynt redeg y tap.

Yn y toiledau neu’r ystafelloedd ymolchi

Tapiau - gall tapiau sy’n diferu wastraffu llawer iawn o ddŵr dros amser ac arwain at filiau uwch. Os oes llawer o dapiau yn eich swyddfa, gofynnwch i’ch gweithwyr ddweud os ydyn nhw’n sylwi bod tap yn gollwng, ac anogwch bawb i gau’r tapiau pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio. Wrth osod tapiau newydd, ystyriwch gael tapiau â synhwyrydd awtomataidd sy’n agor ac yn cau heb fod angen i’r gweithiwr wneud dim.

Pibellau dyfrio - mae llawer o fusnesau’n defnyddio pibellau dyfrio at ddibenion golchi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cau’r tap ar y bibell yn llwyr os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, neu mae’ch arian yn mynd yn syth i lawr y draen.

Fflysio wrinalau - mae wrinalau heb eu rheoli’n gallu gwastraffu cannoedd o litrau yr awr. Wrth ddisodli hen offer, gall defnyddio dyfais rheoli gwtogi 70% ar eich defnydd o ddŵr trwy sicrhau bod y fflysh yn stopio pan nad yw’r safle’n cael ei ddefnyddio.

Fflysio toiledau - mae hen doiledau’n gallu defnyddio hyd at 10 litr o ddŵr y fflysh. Os oes hen seston gennych, ystyriwch osod dyfais arbed dŵr fel bag ‘Save-a-Flush’ sy’n helpu i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei fflysio i ffwrdd.

Toiledau sy’n gollwng - mae toiledau modern â fflysh deuol (sy’n gweithredu â botwm) yn gallu gollwng am fod y botwm neu’r falfiau’n dal. Mae hyn yn gallu gwastraffu dros 250 litr yr awr, felly archwiliwch yr holl doiledau’n rheolaidd am ollyngiadau a sestonau diffygiol.

Cawodydd - os ydych chi’n darparu cyfleusterau cawod yn eich gweithle, ystyriwch ddefnyddio pen cawod wedi ei awyru, sy’n gallu cwtogi hyd at 50% ar eich defnydd o ddŵr.

Os yw’ch staff yn fflysio eitemau heblaw am y 3 P - sef pi-pi, pŵ a phapur - i lawr y tŷ bach, yna mae posteri y gallwch eu lawrlwytho yma i’w haddysgu beth na ddylid ei fflysio.

Dod o hyd i ollyngiadau

Mewn adeiladau swyddfa mwy o faint, mae’n debygol y bydd gennych nifer fawr o bibellau o gwmpas y safle, a allai eich gadael chi’n agored i ollyngiadau dros amser.

Y cyfnodau mwy tawel â’r swyddfeydd ar gau yw’r cyfle delfrydol i archwilio darlleniadau o’ch mesurydd dŵr a dod o hyd i unrhyw ollyngiadau. Darllenwch ein canllaw yma am sut i fynd ati i brofi am ddŵr yn gollwng ar eich safle.

Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i achos y broblem am fod cymaint o bibellwaith e.e. o dan faes parcio, yna gallwch osod falfiau ynysu ar draws eich safle er mwyn tynhau’r chwiliad i ardaloedd penodol. Dydy hyn ddim mor ddrud ag y byddech chi’n ei ddisgwyl ac mae’n dod ag elw da ar y buddsoddiad wrth arbed amser i chi’n chwilio am ddŵr sy’n gollwng sy’n taro’ch poced.

Os na allwch ffeindio ymhle mae dŵr yn gollwng ar eich safle, byddem yn argymell eich bod chi’n cysylltu â chwmni canfod gollyngiadau i’ch helpu chi i fynd at wraidd y broblem.

Paratoi am y gaeaf

Mae rhai swyddfeydd yn wag ân gyfnodau, naill ai dros nos, dros y penwythnos neu dros gyfnodau gwyliau, sy’n golygu na fydd neb yn sylwi bod pibell wedi byrstio, a gallai llawer iawn o ddŵr ollwng heb yn wybod i chi gan achosi llifogydd mewnol.

Gallech ddewis cau eich cyflenwad dŵr dros dro gan ddefnyddio’ch stoptap os ydych chi’n gadael y safle am gyfnod estynedig. Mae rhagor o fanylion am sut i baratoi eich eiddo ar gyfer y gaeaf yma.

Mae yna nifer o bethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth ailgyflwyno’r cyflenwad dŵr i’ch safle ar ôl iddo fod ar gau am gyfnod - mae’r manylion yma.

Manteisio ar logio data

Os oes nifer o wahanol adeiladau swyddfa gennych neu os yw hi’n anodd cyrraedd at eich mesurydd dŵr i’w ddarllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd cadw rheolaeth ar eich defnydd o ddŵr.

Un ateb posibl yw logio data. Mae’r offer monitro dŵr yn cael ei gysylltu â’r mesurydd dŵr, felly mae’n hawdd i chi weld dadansoddiad o’ch defnydd ar lein. Gallwch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, sy’n golygu y gallwch weld unrhyw broblemau posibl, fel dŵr sy’n gollwng, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon.

Gallwch gael rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data yma.

Cymorth a chyngor i fusnesau adwerthu

Ffyrdd o

arbed dŵr

Dyma ambell i awgrym cyffredinol ar arbed dŵr i’ch helpu chi i leihau eich defnydd o ddŵr ar draws eich safle cyfan.

Gwybod mwy