Ailagor eich busnes - a yw’ch cyflenwad dŵr yn barod?
Cyngor am beth y mae angen i chi ei ystyried i sicrhau bod eich dŵr yn ddiogel i'w yfed pan fydd eich eiddo neu'ch busnes yn ailagor.
Ar adegau penodol o’r flwyddyn, mae llawer o fusnesau ac eiddo domestig yn cau dros dro neu’n cwtogi’n sylweddol ar eu gweithgareddau arferol. Mae hynny’n gallu golygu bod dŵr yn sefyll yn y system blymio fewnol am nifer o wythnosau.
Y brif broblem i unrhyw eiddo sydd wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau yw'r posibilrwydd y gallai'r dŵr yn y system a’r pibellau mewnol fod wedi bod yn sefyll yn segur yr holl amser yna.
Er diogelwch eich ymwelwyr, cwsmeriaid neu weithwyr, mae hi'n bwysig dros ben eich bod chi'n clustnodi'r risgiau hyn ac yn eu lliniaru cyn ailagor, a'ch bod yn gofyn am gyngor arbenigol os oes angen.
Ailagor eich busnes – Cyngor am eich cyflenwad dŵr
PDF, 24.8MB
Cyngor am beth y mae angen i chi ei ystyried i sicrhau bod eich dŵr yn ddiogel i'w yfed pan fydd eich eiddo neu'ch busnes yn ailagor.