Atal y rhwystr yn eich busnes
Os ydych chi'n rhedeg busnes, mae yna bob math o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'ch pibellau'n llifo.
Yn eich tai bach
Arddangoswch ein posteri a'n taflenni:
Darparwch fagiau bychain a bin glân a chyfleus yn eich tai bach, ynghyd â chyfleusterau gwaredu cewynnau, er mwyn ei gwneud yn haws i'ch cwsmeriaid waredu nwyddau mislif a weips, fel nad ydyn nhw'n cael eu fflysio.
Gallwch lawrlwytho ein posteri Stop Cyn Creu Bloc gan ddefnyddio'r dolenni isod, neu trwy e-bostio stopcyncreubloc@dwrcymru.com nawr i gael pecyn posteri rhad ac am ddim.
Yn y gegin
Mae braster, olew, saim a sbarion bwyd yn achosi problemau difrifol wrth eu gwaredu trwy sinciau a draeniau. Maen nhw'n achosi tagfeydd sy'n gallu arwain at lifogydd a llygredd mewn cartrefi, busnesau a'r gymdogaeth leol.
Er nad yw braster, olew a saim i'w gweld yn niweidiol, wrth oeri, maen nhw’n ceulo ac yn glynu wrth bethau eraill yn y bibell. Wrth arllwys y pethau hyn i'r draen neu'r sinc, rydych chi mewn perygl o achosi tagfa yn y bibell, neu mewn rhan o'r bibell, sy'n gallu bod yn drychinebus i’ch draeniau.
Mae hi'n bwysig eich bod chi'n gwybod eich bod mewn perygl o achosi tagfa yn eich pibell wrth olchi'r pethau hyn i’r draen. Mae gwaredu'r pethau hyn trwy'r sinc, trwy ddraen (gan gynnwys i lawr tyllau archwilio) neu dŷ bach yn drosedd o dan Adran 111(1) (a) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 — mae'r Ddeddf yn datgan ei bod hi'n drosedd "rhyddhau i garthffos gyhoeddus unrhyw fater a allai darfu ar lif rhydd dŵr gwastraff".
Y gwir amdani yw y gall anwybyddu'r gyfraith olygu eich bod chi'n achosi tagfa yn y garthffos, a byddwch mewn perygl o orfod talu costau atgyweirio ac adfer, yn ogystal â chostau unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi i eiddo cyfagos neu'r amgylchedd.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw braster, olew a saim yn mynd i'ch pibellau - felly cymrwch gamau nawr.
Angen cyngor a chymorth - gallwn ni helpu
Gall ein tîm gyflawni arolwg pwrpasol o'ch cegin yn rhad ac am ddim. Gallwn adolygu eich systemau rheoli saim, eich trefniadau cynnal-a-chadw, hyfforddiant y staff a pharatoi cynllun gweithredu ar eich cyfer i sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â rheoliadau'r diwydiant.
I drefnu arolwg o'ch cegin, rhowch alwad i ni ar 0800 085 3968 a gofyn am eich Swyddog Atal Tagfeydd lleol neu e-bostiwch: letsstoptheblock@dwrcymru.com
Mae posteri isod a fydd yn eich cynorthwyo chi a'ch tîm i wneud y peth iawn yn y gegin, a'n canllawiau am beth sydd angen ei gwneud i reoli braster, olew a saim yn eich cegin.