Cyngor tywydd oer ar gyfer eich busnes
Gofalwch fod eich busnes yn barod ar gyfer misoedd oer y gaeaf trwy ddarllen drwy'r cyngor isod.
Mae busnesau, ysgolion ac adeiladau fel canolfannau cymunedol neu leoliadau addoli yn arbennig o agored i bibellau'n byrstio yn ystod y gaeaf. Mae ystadau diwydiannol neu feysydd carafanau hefyd yn fwy tebygol o fod â phibellau agored a all rewi a byrstio. Maen nhw’n aml yn wag am ddiwrnodau, sy'n golygu na fydd neb yn sylwi ar bibell wedi byrstio, y tu mewn na'r tu allan i'r adeilad, gan achosi llifogydd a gollwng llawer iawn o ddŵr.
Gyda'r gaeaf yn nesáu, mae hi'n bwysig eich bod chi'n sicrhau bod eich busnes yn barod cyn i'r tymheredd ostwng a'r tywydd gaeafol daro.
Mae’r fideo byr isod yn dangos sut i lagio eich pibellau:
Rydym wedi tynnu sylw isod at rywfaint o gyngor pwysig sy'n berthnasol i bob math o fusnes yn ogystal â chynnig cyngor i fathau penodol o fusnesau:
Lapiwch bibellau a thapiau sydd mewn llefydd oer â deunydd inswleiddio neu becyn lagio, ac archwiliwch nhw'n rheolaidd.
Ystyriwch ddraenio pibellau sydd mewn mannau oer agored cyn i'r tywydd afael, a chau'r falfiau.
Cadwch eich adeilad yn gynnesgadw'r gwres yn rhedeg yn isel mewn tywydd oer iawn, trefnu bod rhywun cymwys yn dod i gynnal a chadw eich bwyler, a gwneud yn siŵr bod yr holl reiddiaduron yn gweithio'n iawn
Mae tapiau sy'n diferu, a hyd yn oed y gollyngiad lleiaf yn gallu cynyddu'r risg bod pibellau'n rhewi. Siaradwch â'ch staff a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n rhoi gwybod i chi am unrhyw broblemau gyda dŵr yn gollwng, lle mae ffitiadau wedi torri neu lle bo problem gyda'r insiwleiddiad.
Ymgyfarwyddwch â'ch defnydd o ddŵr,cymerwch ddarlleniadau rheolaidd o'ch mesurydd os oes modd (lle bo'n ddiogel gwneud hynny) er mwyn canfod gollyngiadau'n gynnar.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae'r stoptapiau, a'u bod nhw'n gweithio. Bydd angen cyrraedd atynt yn gyflym, a gwybod sut i'w cau os bydd y gwaethaf yn digwydd. A chymrwch amser i ganfod ymhle mae'r pibellau dŵr, y tu fewn a'r tu fas, fel y gallwch eu harchwilio'n rheolaidd.
Ymgyfarwyddwch â’ch plymwyr lleol Cadwch restr o blymwyr cofrestredig wrth law rhag ofn bod angen eu galw mewn argyfwng, gallai cynllun Plymwyr Cymeradwy y Diwydiant Dŵr fod o gymorth yn hyn o beth
Cadwch lygad ar y safle os yw'n cael ei adael yn wag mewn cyfnod o dywydd oer. Gall gymryd yr amser i wneud hyn leihau effaith pibellau sy’n rhewi ac yn byrstio.
Cyfleusterau gofal hanfodol
Datgysylltwch unrhyw bibellau dyfrio i'w hatal rhag cael, eu difrodi a sicrhewch fod gennych fanylion contractwyr yn eich ardal sy'n gallu eich helpu wrth law, e.e. mae'n bosibl na fydd plymwr lleol yn gallu helpu gyda rhwydwaith o bibellau allanol preifat ar safle helaeth.
Fel safle sy'n dibynnu ar gyflenwad dŵr, dylech ystyried gosod cyfleusterau storio dŵr ar y safle os oes modd. Yn dibynnu ar ba mor gritigol yw natur eich safle, mae'n bosibl y byddwn eisoes wedi cysylltu â chi i drafod cynlluniau brys rhag ofn eich bod colli eich cyflenwad dŵr yn ddirybudd.
Gallai'r cynlluniau hyn fod yn bethau mor syml â sicrhau bod gennym y manylion cysylltu cywir ar eich cyfer, cofrestru eich safle i gael dŵr potel, neu ar safleoedd dwys, sicrhau bod gennym ni'r gallu i gysylltu tanceri â'ch system gyflenwi dŵr.
Os nad ydych wedi trafod y manylion hyn gyda ni eisoes, croeso i chi gysylltu â ni yn BST@dwrcymru.com (dylai cwsmeriaid ag un safle sy'n defnyddio dros 50,000m3 o ddŵr y flwyddyn gysylltu â'u Hadwerthwr).
Safleoedd diwydiannol mawr
Sicrhewch fod gennych fanylion contractwyr lleol sy’n gallu trwsio gollyngiadau ar eich rhwydwaith gyflenwi preifat wrth law. Lle bo gan y rhwydwaith preifat hwn bibellau diamedr mwy o lawer na’r rhai arferol, dylech ystyried a fyddai'r ffitiadau ar gael yn hwylus mewn argyfwng, ac os na, hwyrach y dylech ystyried cadw stoc wrth gefn neu sefydlu contractau priodol i gael gafael ar y rhain ar fyr rybudd.
Os yw cyflenwad dŵr yn gritigol i'ch busnes, dylech ystyried gosod cyfleusterau storio dŵr ar y safle neu sefydlu trefniadau gyda thrydydd parti i ddarparu tanceri mewn argyfwng. Byddwn ni'n eich cynorthwyo os gallwn ni, ond mewn cyfnodau o dywydd oer, mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio ein hadnoddau ar ein rhwydwaith ein hunain ac na fyddwn ni'n gallu helpu.
Os nad oes offer logio data ar eich cyflenwad, ystyriwch eu gosod am y bydd bod yn ymwybodol o'ch defnydd arferol yn helpu i ganfod unrhyw ollyngiadau'n gyflym cyn iddynt effeithio ar eich safle. Cysylltwch â ni ar 0800 260 5052 os hoffech gael rhagor o fanylion am logio data.
Gallwch gysylltu â ni yn BST@dwrcymru.comneu eich Adwerthwr (i gwsmeriaid ag un safle sy'n defnyddio dros 50,000m3 o ddŵr y flwyddyn) am gyngor ar sut y gallwch baratoi eich safle ac amddiffyn eich busnes.
Safleoedd carafanau a pharciau gwyliau
Os yw'r safle ar gau dros y gaeaf, mae'n bosibl y byddwch am ystyried draenio'r rhwydwaith dŵr nes i’r tywydd gynhesu (er enghraifft mewn carafanau gwag), ond cofiwch glorineiddio’r rhwydwaith yn drylwyr wrth ailgysylltu'r cyflenwad yn y gwanwyn. Os taw rhannau penodol yn unig o'r safleoedd sy'n segur dros y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel y gellir neilltuo'r cyflenwadau.
Am eich bod chi'n debygol o fod â thapiau neu bibellau yn yr awyr agored, bydd angen i chi sicrhau bod y rhain wedi eu hamddiffyn, lapiwch nhw gan ddefnyddio deunydd inswleiddio priodol neu becyn lagio a'u harchwilio'n rheolaidd.
Datgysylltwch unrhyw bibellau dyfrio i'w hatal rhag cael eu difrodi ac atal yr oerfel rhag teithio i fyny'r bibell ac i mewn i'r eiddo.
Os taw rhannau penodol o'r safle yn unig sydd ar gau dros y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel y gellir neilltuo’r cyflenwadau.
Cyfleusterau Cymunedol
Mae ysgolion ac adeiladau fel canolfannau cymuned neu fannau addoli’n arbennig o fregus i bibellau’n byrstio dros y gaeaf am eu bod nhw'n aml yn wag am ddyddiau, sy'n golygu na fydd neb yn sylwi bod pibell wedi byrstio y tu fewn neu'r tu allan i'r adeilad, â dŵr yn ffrydio dros gyfnod estynedig gan achosi llifogydd.
I helpu i osgoi hyn, dylech ddatgysylltu unrhyw bibau dyfrhau i'w hatal rhag cael eu difrodi, ynysu unrhyw gyflenwadau allanol pan fo'n bosibl a gwneud yn siŵr bod eich system ysgeintio yn barod ar gyfer y gaeaf.
Diwydiannau Gwasanaethu
Gall safleoedd llawer o ddarparwyr gwasanaethau fod yn wag am gyfnodau dros y gaeaf, naill ai dros nos, ar benwythnosau neu oherwydd gwyliau, sy'n golygu na fydd neb yn sylwi bod pibell yn yr adeilad wedi byrstio a bod dŵr yn ffrydio allan gan achosi llifogydd mewnol. I helpu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, gofalwch eich bod wedi ystyried y cyngor uchod er mwyn helpu i ddiogelu eich busnes.
Cyngoer tywydd oer i fusnesau
PDF, 293.4kB
Gyda’r gaeaf yn nesáu, mae hi’n bwysig eich bod chi’n sicrhau bod eich busnes yn barod am dywydd oer ac amodau gaeafol.
A yw'ch busnes yn barod am y Gaeaf?
PDF, 581.5kB
Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer y gaeaf.