Ein ffigurau carbon


Rydyn ni’n gwybod bod mwy a mwy o’n cwsmeriaid busnes yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn monitro eu hôl troed carbon.

Os oes angen i chi adrodd ar eich defnydd o garbon, yna gallai fod yn ddefnyddiol deall faint o garbon sy’n cael ei gynhyrchu trwy ddefnydd eich sefydliad o ddŵr. Mae angen i ni ddefnyddio llawer o ynni i drin y dŵr a’i gynorthwyo i deithio yn ôl ac ymlaen i’ch busnes.

Mae gan Discover Water offeryn defnyddiol lle gallwch weld yr allyriannau net o nwyon tŷ gwydr gweithredol (KgCO2e) fesul megalitr o ddŵr sy’n cael ei drin a charthion sy’n cael eu trin am bob cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr. Er bod ffigurau Dŵr Cymru’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, bydd hyn yn darparu’r ffigurau diweddaraf ar eich cyfer. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud wedyn yw ei gymhwyso i’r defnydd a gynhwysir yn eich biliau er mwyn mesur eich ôl troed carbon:.

Rydyn ni’n cyhoeddi rhagor o fanylion am ein hôl troed carbon yn adroddiad blynyddol a chyfrifon ein grŵp yma.