Cymorth a chyngor i barciau carafanau
Rydyn ni’n gwybod bod parciau carafanau’n greiddiol i economi ein hardal weithredu. Mae dŵr yn hanfodol i westeion fwynhau eu gwyliau, ac mae pob diferyn yn cyfri, sy’n golygu bod parciau carafanau’n aml yn defnyddio llawer o ddŵr, yn enwedig yn y misoedd poeth.
Mae dŵr yn aml yn cael ei ddefnyddio yn eich carafanau unigol, mewn blociau cawodydd, golchdai, bariau, bwytai, pyllau nofio a thybiau twym, felly mae hi’n gallu bod yn anodd cadw rheolaeth arno.
O’n gwaith gyda chartrefi gwyliau, rydyn ni’n gwybod taw’r ddwy sialens allweddol wrth reoli eich defnydd o ddŵr yw gollyngiadau ac ymddygiad gwesteion. Rydyn ni wedi llunio cronfa o gymorth a chynghorion isod i’ch helpu chi.
Llywio ymddygiad gwesteion
Gyda’n hamrywiaeth o bosteri arbed dŵr y gallwch eu lawrlwytho yma, gallwch ddylanwadu ar eich gwesteion i gael cawod fyrrach, rhoi gwybod am doiledau sy’n gollwng, a’u hannog i defnyddio’r fflysh bach.
Os yw eich gwesteion yn fflysio eitemau heblaw am y 3 P - pi-pi, pŵ a phapur - i lawr y tŷ bach yn rheolaidd, yna mae posteri â gwybodaeth ar stopio’r bloc ac achosi difrod i ddraeniau yma.
Os oes system gwastraff breifat gennych, mae hi’n arfer da sicrhau ei bod yn addas ac yn gweithio’n effeithiol. Mae gwybodaeth hwylus ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma, ac mae gwybodaeth hefyd ar wefan Gov.uk yma.
Dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng
Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o barciau carafanau, mae’n debygol y bydd gennych rwydwaith helaeth o bibellau dŵr i gludo’r dŵr i gwsmeriaid ar draws eich safle, sy’n eich gadael chi’n agored i ddŵr sy’n gollwng dros amser.
Mae’r cyfnodau mwy tawel pan fo’r safle ar gau yn gyfle perffaith i graffu ar ddarlleniadau eich mesurydd dŵr a dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng. Darllenwch ein canllaw yma i weld sut i brofi am ddŵr sy’n gollwng ar eich safle.
Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i’r broblem, gallwch osod falfiau neilltuo ar draws y safle er mwyn culhau’r chwiliad i barthau penodol. Nid yw hyn mor ddrud ag y byddech chi’n meddwl, ac mae hi werth y buddsoddiad os yw’r arbed amser i chi wrth chwilio am ollyngiad costus.
Lapiwch yn gynnes dros y gaeaf
Os yw’ch safle ar gau dros y gaeaf, gallech ystyried draenio’r rhwydwaith dŵr am gyfnod. Mae yna nifer o bethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth ailgyflwyno’r cyflenwad dŵr i’ch eiddo ar ôl bod ar gau am gyfnod. Gallwch gael rhagor o gyngor ar beth i’w wneud wrth ailgyflwyno’ch cyflenwad dŵr trwy glicio ar y linc yma.
Os oes rhannau o’r safle’n unig yn segur dros fisoedd y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel bod modd neilltuo’r cyflenwadau.
Am eich bod chi’n debygol o fod â thapiau neu bibellau mewn mannau agored, bydd angen i chi sicrhau bod y rhain wedi eu hamddiffyn hefyd. Lapiwch nhw gan ddefnyddio deunydd inswleiddio addas neu becyn lagio, ac archwiliwch nhw’n rheolaidd.
Datgysylltwch unrhyw bibellau chwistrellu er mwyn osgoi difrod iddynt.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i baratoi eich parc carafanau am y gaeaf yma.
Defnyddio offer logio data
Os oes gennych sawl safle neu os ydych chi’n cael anhawster cyrraedd at eich mesurydd dŵr i’w ddarllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli eich defnydd o ddŵr.
Gallai offer logio data, neu delemetreg, gynnig ateb delfrydol. Mae’r offer monitro dŵr yn gysylltiedig â’r mesurydd dŵr, a gallwch weld dadansoddiad o’ch defnydd yn fyw ar lein. Cewch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, a fydd yn eich galluogi chi i weld unrhyw broblemau posibl, fel gollyngiadau, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon.
Mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data â thâl yma.
Ffyrdd o arbed dŵr
Dyma ambell i awgrym generig i arbed dŵr i’ch helpu chi i leihau’r defnydd o ddŵr ar draws eich safle.