Cymorth a chyngor i fusnesau adwerthu


Fel perchennog busnes adwerthu, rydych chi am gadw eich costau mor isel â phosibl. Gallech fod yn siop fach ag un tŷ bach i’r staff, neu’n archfarchnad mwy â thoiledau i gwsmeriaid.

Y naill ffordd neu’r llall, gall newidiadau bach fel clustnodi gwastraff dŵr ar y safle, pennu gwaelodlin ar gyfer defnydd dŵr, codi ymwybyddiaeth ymysg staff a chwsmeriaid, neu uwchraddio i ddyfeisiau sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon helpu i arbed dŵr ac arian. Dyma gronfa o wybodaeth i’ch helpu chi i wneud hynny!

Hyrwyddo ymddygiad sy’n arbed dŵr

Gyda gwahanol aelodau o staff a’r cyhoedd yn defnyddio’ch cyfleusterau, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli ymddygiad defnyddwyr.

Gyda’n hamrywiaeth o bosteri arbed dŵr y gallwch eu lawrlwytho yma, gallwch ddylanwadu ar eich staff a/neu gwsmeriaid i roi gwybod am doiledau neu offer arall sy’n gollwng, a’u hannog i ddefnyddio’r fflysh bach.

Mae’n bwysig addysgu staff am gost dŵr a’r effaith y gallai gwastraffu dŵr ei chael ar y busnes, fel yr effaith ar elw a diogelwch y busnes. Ni all llawer o safleoedd fasnachu heb gyflenwad dŵr.

Os yw’ch staff neu’ch cwsmeriaid yn fflysio eitemau heblaw am y 3 P - pi-pi, pŵ a phapur - i lawr y tŷ bach yn rheolaidd, mae gennym bosteri i’w lawrlwytho yma i’w haddysgu ynghylch beth na ddylid ei fflysio.

Dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng

Mewn unedau adwerthu mawr, mae hi’n debygol y bydd gennych nifer sylweddol o bibellau sy’n cludo dŵr o gwmpas eich safle, sy’n eich gadael chi’n agored i ollyngiadau dros amser.

Mae’r cyfnodau mwy tawel pan fo’r safle ar gau yn gyfle perffaith i graffu ar ddarlleniadau eich mesurydd dŵr a dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng. Darllenwch ein canllaw yma i weld sut i brofi am ddŵr sy’n gollwng ar eich safle.

Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i’r broblem oherwydd faint o bibellau sydd yna, e.e. o dan y maes parcio i gwsmeriaid, yna gallwch osod falfiau neilltuo ar draws y safle er mwyn culhau’r chwiliad i barthau penodol. Nid yw hyn mor ddrud ag y byddech chi’n meddwl, ac mae hi werth y buddsoddiad os yw’r arbed amser i chi wrth chwilio am ollyngiad costus er mwyn ei drwsio.

Os na allwch chi ddod o hyd i leoliad y dŵr sy’n gollwng ar eich eiddo, byddem yn argymell eich bod chi’n cysylltu â chwmni canfod gollyngiadau er mwyn mynd at wraidd y broblem.

Lapiwch yn gynnes dros y gaeaf

Mae llawer o siopau’n wag am gyfnodau naill ai dros nos, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau, sy’n golygu hwyrach na fydd neb yn sylwi bod pibell wedi byrstio gan ollwng llawer o ddŵr ac achosi llifogydd mewnol.

Gallech ddewis cau eich stoptap er mwyn atal y cyflenwad dŵr dros dro wrth adael y safle am gyfnod hirach. Mae yna nifer o bethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth ailgyflwyno’r cyflenwad dŵr i’ch eiddo ar ôl bod ar gau am gyfnod. Gallwch gael rhagor o gyngor ar beth i’w wneud wrth ailgyflwyno’ch cyflenwad dŵr trwy glicio ar y linc yma.

Mewn uned adwerthu mwy a allai fod ar gau am gyfnodau dros yr ŵyl, gallai fod yn syniad da draenio’r rhwydwaith dŵr dros y gaeaf er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o fyrst. Os oes rhannau o’r safle’n unig yn segur dros fisoedd y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel bod modd neilltuo’r cyflenwadau.

Mae rhagor o fanylion am sut i baratoi eich safle am y gaeaf yma.

Defnyddio offer logio data

Os oes gennych sawl safle neu os ydych chi’n cael anhawster cyrraedd at eich mesurydd dŵr i’w ddarllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli eich defnydd o ddŵr.

Efallai taw offer logio data yw’r ateb. Mae’r offer monitro dŵr yn gysylltiedig â’r mesurydd dŵr, a gallwch weld dadansoddiad o’ch defnydd yn hwylus ar lein. Cewch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, a fydd yn eich galluogi chi i weld unrhyw broblemau posibl, fel gollyngiadau, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon.

Mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data â thâl yma.

Ffyrdd o arbed dŵr

Dyma ambell i awgrym generig i arbed dŵr i’ch helpu chi i leihau’r defnydd o ddŵr ar draws eich safle.