Cymorth a chyngor i ystadau diwydiannol a pharciau busnes


Rydyn ni’n gwybod bod ystadau diwydiannol yn greiddiol i economi ein hardal weithredu. Mae gwasanaethau dŵr and dŵr gwastraff yn hanfodol i weithrediad pob dydd ystadau diwydiannol a pharciau busnes â nifer o unedau.

Mae dŵr yn aml yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth o denantiaid am wahanol ddefnyddiau busnes ar draws ystadau diwydiannol, felly mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli a chadw trac ar ddefnydd. Rydyn ni wedi tynnu’r wybodaeth isod ynghyd yn y gobaith o wneud hyn yn haws i chi.

Hyrwyddo ymddygiad defnyddwyr unedau

Bydd gan wahanol denantiaid wahanol lefelau o addysg o ran sut i arbed dŵr a beth i beidio â’i fflysio i lawr y draen.

Gyda’n hamrywiaeth o bosteri arbed dŵr sydd ar gael i’w lawrlwytho yma, gall perchnogion a thenantiaid unedau gymryd cyfrifoldeb dros roi gwybod am doiledau diffygiol, gollyngiadau, a defnyddio’r fflysh bach.

Os yw’ch tenantiaid yn fflysio eitemau heblaw am y 3 P - pi-pi, pŵ a phapur - i’r tŷ bach yn rheolaidd, mae gennym bosteri i’w lawrlwytho yma i’w haddysgu ynghylch beth na ddylid ei fflysio.

Dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o ystadau diwydiannol a pharciau busnes, mae’n debygol y bydd gennych rwydwaith helaeth o bibellau dŵr i gludo’r dŵr i unedau ar draws eich safle, sy’n eich gadael chi’n agored i ddŵr sy’n gollwng dros amser.

Mae cyfnodau tawel pan mae’r safle ar gau yn gyfle perffaith i bwyso a mesur darlleniadau eich mesuryddion dŵr a chanfod a oes dŵr yn gollwng. Darllenwch ein canllaw ar sut i ganfod a oes dŵr yn gollwng ar eich safle yma.

Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i’r broblem am fod y pibellau mor helaeth, gallwch osod falfiau ynysu ar draws y safle i dynhau’r chwiliad i barthau penodol. Nid yw hyn mor ddrud ag y byddech chi’n ei ddisgwyl, ac mae hi’n werth y buddsoddiad os yw’r arbed amser i chi wrth chwilio am ollyngiad costus. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar ystadau diwydiannol mwy o faint.

Gallwch osod is-fesuryddion ar unedau unigol hefyd er mwyn deall sut ac ymhle mae dŵr yn cael ei ddefnyddio ar draws eich ystâd.

Sicrhewch fod gennych fanylion cyswllt wrth law ar gyfer contractwyr lleol sy’n gallu trwsio gollyngiadau ar eich rhwydwaith cyflenwi preifat. Lle mae gan y rhwydwaith preifat yma bibellau â diamedr mawr iawn, dylech ystyried a fyddai ffitiadau ar gael yn hwylus ar eu cyfer, ac os na, dylech ystyried cadw rhai sbâr neu sefydlu contractau priodol fel y gallwch gael gafael arnynt ar fyr rybudd.

Lapiwch yn gynnes dros y gaeaf

Os yw eich safle ar gau dros y gaeaf, mae hi’n syniad da lapio unrhyw bibellwaith allanol gan ddefnyddio pecyn lagio cyn cau’r safle. Os oes pibell yn byrstio pan nad oes neb ar y safle, gallai dŵr sy’n gollwng achosi difrod mawr.

Gallech ddewis draenio’r rhwy dwaith dŵr dros y gaeaf er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o fyrst. Os taw rhannau o’r safle’n unig sy’n segur dros fisoedd y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel bod modd neilltuo’r cyflenwadau.

Os yw cyflenwad dŵr yn hanfodol i’ch busnes, dylech ystyried cyfleusterau storio ar y safle, neu wneud trefniadau gyda thrydydd parti i ddarparu tanceri mewn argyfwng. Byddwn ni’n eich cynorthwyo os gallwn ni, ond mewn tywydd oer, gallai ein hadnoddau fod yn cael eu defnyddio ar ein rhwydwaith, ac ni fyddwn ni’n gallu helpu pob tro.

Mae rhagor o fanylion am sut i baratoi eich safle am y gaeaf yma.

Defnyddio offer logio data

Os oes gennych sawl safle, neu os yw’n anodd cyrraedd at eich mesuryddion dŵr i’w darllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli eich defnydd o ddŵr.

Efallai taw offer logio data yw’r ateb. Mae’r offer monitro dŵr yn gysylltiedig â’r mesurydd dŵr, a gallwch weld dadansoddiad o’ch defnydd yn fyw ar lein. Cewch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, a fydd yn eich galluogi chi i weld unrhyw broblemau posibl, fel gollyngiadau, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon.

Mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data â thâl yma.

Ffyrdd o arbed dŵr

Dyma ambell i awgrym generig i arbed dŵr i’ch helpu chi i leihau’r defnydd o ddŵr ar draws eich safle.