Cymorth a chyngor ar gyfer gwasanaethau addysg


Mae ein dyfodol yn dibynnu ar ysgolion a gwasanaethau addysg eraill yn darparu sylfaen hanfodol i’r genhedlaeth nesaf ddatblygu. Mae creu lle diogel iddyn nhw ddysgu’n hanfodol, ac mae hynny’n arbennig o wir am y systemau dŵr sydd oddi mewn iddynt.

Isod mae ychydig o gyngor defnyddiol i’r bobl sy’n rheoli’r systemau dŵr a dŵr gwastraff mewn ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch.

Ymddygiad disgyblion a staff

Wrth addysgu eich disgyblion am y cwricwlwm, beth am ychwanegu cyngor ac arweiniad ynghylch beth i beidio â fflysio?

Gyda’n hamrywiaeth o bosteri arbed dŵr sydd ar gael i’w lawrlwytho yma, gallwch ddylanwadu ar eich disgyblion a’ch staff i roi gwybod am doiledau diffygiol, cau tapiau sy’n diferu, a defnyddio’r fflysh bach. Mae yna bosteri i’w lawrlwytho i annog pawb i gadw at reol o fflysio dim ond y 3 P – pi-pi, pŵ a phapur – i’r tŷ bach hefyd.

Os ydych chi’n gweithio mewn adeilad prifysgol â neuaddau preswyl, gallech arddangos y posteri hyn yn eich llety i fyfyrwyr hefyd.

Dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o safleoedd addysg, mae’n debygol y bydd gennych rwydwaith helaeth o bibellau dŵr i gludo’r dŵr o gwmpas eich safle, sy’n eich gadael chi’n agored i ddŵr sy’n gollwng.

Mae’r cyfnodau mwy tawel yn ystod gwyliau hanner tymor, yr haf a’r gaeaf yn gyfle perffaith i bwyso a mesur y darlleniadau o’ch mesurydd dŵr a chanfod dŵr sy’n gollwng. Darllenwch ein canllaw yma i ddysgu sut i brofi am ddŵr sy’n gollwng ar eich safle.

Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i’r broblem am fod y pibellau mor helaeth, gallwch osod falfiau ynysu ar draws y safle i dynhau’r chwiliad i barthau penodol. Nid yw hyn mor ddrud ag y byddech chi’n meddwl, ac mae hi werth y buddsoddiad os yw hi’n arbed amser i chi wrth chwilio am ollyngiad costus.

Lapiwch yn gynnes dros y gaeaf

Mae ysgolion yn arbennig o fregus i bibellau’n byrstio dros y gaeaf am eu bod nhw’n aml yn wag am ddyddiau. Mae hyn yn gallu golygu bod pibell yn byrstio y tu fewn neu’r tu allan i’r adeilad heb yn wybod i neb, gan achosi llifogydd a gollwng llwyth o ddŵr.

Pan fo’r safle ar gau dros y gaeaf, mae hi’n syniad da lapio unrhyw bibellwaith allanol gan ddefnyddio pecyn lagio cyn cau’r safle. Os oes pibell yn byrstio pan nad oes neb ar y safle, gallai dŵr sy’n gollwng achosi difrod mawr.

Gallech ddewis draenio’r rhwydwaith dŵr dros y gaeaf er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o fyrst. Os taw rhannau o’r safle’n unig sy’n segur dros fisoedd y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel bod modd neilltuo’r cyflenwadau.

Dylech ddatgysylltu unrhyw bibellau dyfrio hefyd er mwyn atal unrhyw ddifrod iddynt, neilltuo unrhyw gyflenwadau allanol lle bo modd, a sicrhau bod eich system taenellu’n barod am y gaeaf.

Mae rhagor o fanylion am sut i baratoi eich safle am y gaeaf yma.

Profwch eich falfiau RPZ

Ar safle mawr fel ysgol, efallai fod gennych falfiau Parth Pwysedd Is (RPZ) ar eich system blymio er mwyn atal dŵr rhag mynd nôl i fyny trwy’r pibellau gan halogi’r dŵr yfed.

Rhaid i bob falf PRZ gael ei brofi gan osodwr medrus o leiaf unwaith y flwyddyn. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.

Manteisiwch ar system logio data i achub y blaen ar ollyngiadau

Os oes gennych nifer o safleoedd neu os yw hi’n anodd cyrraedd at eich mesurydd dŵr i’w ddarllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli eich defnydd o ddŵr. Yn aml iawn, fyddwch chi ddim yn gwybod bod dŵr yn gollwng nes i chi gael bil mawr gennym.

Efallai taw offer logio data yw’r ateb. Mae’r offer monitro dŵr yn gysylltiedig â’r mesurydd dŵr, a gallwch weld dadansoddiad o’ch defnydd yn fyw ar lein. Cewch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, a fydd yn eich galluogi chi i weld unrhyw broblemau posibl, fel gollyngiadau, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon.

Mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data â thâl yma.

Elifiant masnachol

Os oes angen i chi ryddhau unrhyw beth heblaw carthion domestig i un o’n carthffosydd cyhoeddus, bydd angen ein caniatâd i wneud hynny. Y ffordd orau o ddisgrifio carthion domestig yw gwastraff o’r tŷ bach, y bath neu’r sinc, neu ddŵr wyneb heb ei halogi a dŵr sy’n draenio oddi ar doeau (dŵr glaw).

Mae hi’n anghyfreithlon rhyddhau deunydd i’n carthffosydd cyhoeddus heb ein caniatâd ni. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.

Ffyrdd o arbed dŵr

Dyma ambell i awgrym generig i arbed dŵr i’ch helpu chi i leihau’r defnydd o ddŵr ar draws eich safle.

Ymweliadau addysg i’ch myfyrwyr

Un o’n nodau yw helpu sefydliadau addysg i daclu disgyblion i fod yn ddinasyddion byd-eang, gan roi dealltwriaeth iddynt am gynaliadwyedd a’i effaith ar y gymuned leol.

Wyddech chi fod gennym ni dîm addysg bwrpasol sy’n gallu trefnu gwersi ar bob rhan o’r cylch dŵr gydag athrawon ar secondiad? Mae rhagor o fanylion yma.