Cymorth a chyngor i’r sector amaeth


Yn ogystal â bod yn hanfodol i fywyd pob dydd, mae dŵr yn allweddol wrth gynnal ein diwydiant amaeth hollbwysig. Rydyn ni wedi llunio’r wybodaeth isod â’r nod o ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i reoli dŵr a dŵr gwastraff ar eich tir yn effeithiol.

TarddLe

Cyflenwi dŵr yfed diogel bob tro yw ein cyfrifoldeb pwysicaf. Rydyn ni’n codi’r dŵr yma o afonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear, a gelwir yr ardaloedd sy’n amgylchynu’r cyrsiau dŵr yma’n ddalgylchoedd. Gallwch weld map o’n dalgylchoedd yma.

Trwy sicrhau bod ein dŵr crai o’r safon uchaf bosibl, gallwn osgoi defnyddio cemegolion ac ynni ychwanegol wrth ei droi’n ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae hyn yn ein helpu ni i gadw biliau mor isel â phosibl, yn diogelu’r amgylchedd, ac yn amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed am flynyddoedd i ddod.

Rheoli dalgylchoedd yn effeithiol yw ein hamddiffyniad cyntaf wrth ddiogelu ansawdd dŵr yfed.

Rydyn ni’n gwybod bod gweithgareddau sy’n digwydd ar y tir sy’n amgylchynu ein ffynonellau dŵr yfed yn effeithio ar ansawdd dŵr crai. Am taw ychydig iawn o’r tir o gwmpas yr afonydd, y cronfeydd a’r dŵr daear yma sydd yn ein perchnogaeth ni, rydyn ni’n gweithio gyda pherchnogion y tir a’n partneriaid trwy ein dull TarddLe o weithredu.

TarddLe yw ein dull o fynd ati i ofalu am y tir o gwmpas ein hafonydd, ein cronfeydd dŵr a’n ffynonellau dŵr daear er mwyn amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed am genedlaethau i ddod. Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill, gallwn sicrhau bod y dŵr sy’n cyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr o ansawdd ddisgwyliedig, gyson a hydrin.

Mae gennym bartneriaethau gweithio cadarn gyda Grŵp Dwr y Bannau  a CFfI Cymru  ac rydyn ni’n gweithio gyda ffermwyr a grwpiau ffermio ar draws Cymru i ddod o hyd i atebion i broblemau cyffredin sy’n llesol i bawb.

I gael rhagor o fanylion am TarddLe, cliciwch yma I ddarllen beth sydd gan y ffermwyr sy’n gweithio gyda ni i’w ddweud, cliciwch yma.

Os ydych chi’n byw mewn dalgylch ac yn awyddus i weithio gyda ni, ewch i watersource@dwrcymru.com.

Biosolidau o’n prosesau trin dŵr gwastraff

Biosolidau yw cynnyrch terfynol prosesau trin dŵr gwastraff. Maen nhw’n ffynhonnell gost-effeithiol a chynaliadwy o wrtaith hefyd, gan ddarparu cyfoeth o faetholion a mater organig ar gyfer tir amaeth.

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cyflawn, gan gynnwys samplo pridd, er mwyn asesu addasrwydd y tir a darparu cymorth ac arweiniad parhaus er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o faetholion. I gael rhagor o fanylion, ewch i’n tudalen biosolidau.

Hybu newid mewn ymddygiad

Rydyn ni’n gwybod taw busnesau teuluol yw llawer o fusnesau amaeth, ac mae cartref y teulu ar y safle’n aml hefyd.

Os ydych chi am addysgu eich teulu am ffyrdd o arbed dŵr, mae amrywiaeth o’n posteri i’w gweld yma.

Yn yr un modd, os ydych am addysgu eich teulu ynghylch peidio â fflysio dim ond y 3 Ps – pi-pi, pŵ a phapur – i lawr y tŷ bach, yna mae gwybodaeth yma i’ch helpu chi i atal problemau draenio ar eich tir.

Dod o hyd i ddŵr sy’n gollwng

Gyda sawl erw o dir, mae hi’n debygol y bydd gennych nifer sylweddol o bibellau sy’n cludo dŵr o gwmpas eich safle, sy’n eich gadael chi’n agored i ollyngiadau dros amser.

Mae hi’n syniad da manteisio ar gyfleoedd pan fo’r fferm yn dawel – dros nos efallai – i graffu ar ddarlleniadau eich mesurydd dŵr a dod o hyd i ollyngiadau. Darllenwch ein canllaw yma i weld sut i brofi am ddŵr sy’n gollwng ar eich tir.

Os ydych chi’n amau bod dŵr yn gollwng, ond yn cael trafferth dod o hyd i’r broblem am fod y pibellau mor helaeth, yna gallwch osod falfiau ynysu ar draws y safle er mwyn culhau’r chwiliad i barthau penodol. Nid yw hyn mor ddrud ag y byddech chi’n meddwl, ac mae hi werth y buddsoddiad os yw’n arbed amser i chi wrth chwilio am ollyngiad costus er mwyn ei atal.

Lapiwch yn gynnes dros y gaeaf

Gyda ffermydd, mae yna lawer o bibellwaith allanol yn aml, felly mae hi’n syniad da lagio eich pibellau dros gyfnod y gaeaf er mwyn eu hamddiffyn rhag rhewi a byrstio. Os bydd pibell yn byrstio dros gyfnod y gaeaf, gallai’r dŵr sy’n gollwng achosi pob math o ddifrod.

Os oes rhannau o’r safle’n segur dros y gaeaf, ystyriwch osod stoptapiau yn yr ardaloedd hyn fel bod modd neilltuo’r cyflenwadau. Mae rhagor o fanylion am sut i baratoi eich safle am y gaeaf yma.

Defnyddio offer logio data

Os oes gennych sawl safle neu os ydych chi’n cael anhawster cyrraedd at eich mesurydd dŵr i’w ddarllen yn rheolaidd, mae hi’n gallu bod yn anodd rheoli eich defnydd o ddŵr.

Efallai taw offer logio data yw’r ateb. Mae’r offer monitro dŵr yn gysylltiedig â’r mesurydd dŵr, a gallwch weld dadansoddiad o’ch defnydd yn hwylus ar lein. Cewch dracio eich defnydd o ddŵr yn rhwydd, a fydd yn eich galluogi chi i weld unrhyw broblemau posibl, fel gollyngiadau, a delio â nhw’n gyflym ac yn effeithlon. Mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth logio data â thâl yma.

Ffyrdd o arbed dŵr

Mae hi’n syniad da sicrhau bod y tapiau ar draws y safle ar gau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ac nad yw’r cafnau dŵr yn gorlifo.

Er mwyn lleihau neu reoli eich defnydd o ddŵr yn effeithiol, rydyn ni wedi llunio ambell i awgrym generig am ffyrdd o arbed dŵr a allai fod o gymorth. Mae’r manylion yma.