Rheoliadau Dŵr ar gyfer eich busnes


Oeddech chi'n gwybod bod gofyniad cyfreithiol ar bob safle sy'n derbyn cyflenwad dŵr gan Ddŵr Cymru i sicrhau bod eu systemau plymio'n cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999? Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i bopeth sydd ar ochr y cwsmer o'r ffin gydymffurfio.

Os nad ydych chi'n deall beth sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau, mae diagram sy'n eu hesbonio nhw isod. Dŵr Cymru sydd biau'r rhan sydd ar ochr chwith bellaf y diagram ac sy'n gyfrifol am drwsio’r rhan yma o’r pibellwaith, mae'r Rheoliadau'n berthnasol i'r ddwy ran ar y dde: eich pibellwaith cyflenwi preifat a'ch pibellwaith a'ch ffitiadau mewnol.

Pam fod y rheoliadau'n bodoli?

Prif bwrpas y rheoliadau hyn yw amddiffyn iechyd y cyhoedd trwy geisio atal gwastraff, camddefnydd, defnydd diangen, mesuriadau gwallus a halogiad y dŵr rydym yn ei gyflenwi ar gyfer ein cwsmeriaid.

Ni sy'n gorfodi'r rheoliadau hyn ar ran DEFRA a Llywodraeth Cymru, ac maen nhw’n hanfodol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a'r cyflenwad dŵr.

Rydyn ni'n cyflawni archwiliadau ar rai o'r safleoedd a gyflenwn er mwyn sicrhau bod eu systemau plymio'n cydymffurfio â'r rheoliadau hyn, ond rydyn ni'n cynnig cymorth a chefnogaeth i gwsmeriaid gydymffurfio hefyd trwy agweddau eraill ar ein gwaith.

Isod mae ychydig o wybodaeth am beth y gallwch ei wneud i gydymffurfio, a sut y gallwn eich cynorthwyo a'ch cefnogi.

Sut mae mynd ati i gydymffurfio â'r rheoliadau?

  • Trwy ein hysbysu am unrhyw waith plymio
    Os ydych chi'n newid neu'n ymestyn system blymio annomestig, yna mae angen i chi roi gwybod i ni cyn cyflawni unrhyw waith. Mae hyn yn caniatáu i ni eich cynorthwyo chi i sicrhau bod eich gwaith cynlluniedig yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Bydd hyn yn eich atal rhag gwastraffu amser ac arian yn cyflawni addasiadau ar ôl i ni archwilio'r gwaith gorffenedig.
    Gallwch gael rhagor o fanylion am sut a phryd i'n hysbysu ni trwy fynd i yma
  • Trwy ddefnyddio Contractwyr Cymeradwy WaterSafe
    Oeddech chi'n gwybod taw WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol ar gyfer contractwyr cymeradwy, fel plymwyr a gosodwyr pibellau cyflenwi dŵr? Gweithwyr proffesiynol ag yswiriant digonol a gwybodaeth briodol am y Rheoliadau yw aelodau WaterSafe. Felly bydd defnyddio contractwyr cymeradwy WaterSafe yn rhoi tawelwch meddwl i chi y bydd y gwaith a gyflawnir yn cydymffurfio. Chwiliwch am eich plymwr cymeradwy lleol yma:

Os ydych chi'n rheoli neu'n contractio gwaith allan i blymwyr heb gymeradwyaeth WaterSafe, mae'n bosibl y gallwn gynnig hyfforddiant am ddim yn y Rheoliadau Dŵr i'r plymwyr cymwysedig hynny sy'n gymwys am aelodaeth o WaterSafe i'w cynorthwyo i gael eu cymeradwyo. Cysylltwch trwy WaterRegulations@dwrcymru.com i gael rhagor o fanylion neu i gofrestru’ch diddordeb.

  • Gallwn ddarparu cyflwyniadau codi ymwybyddiaeth am y Rheoliadau Dŵr
    Rydyn ni'n cynnig sesiynau ymwybyddiaeth am y Rheoliadau Dŵr ar gyfer y bobl hynny nad oes arnynt angen yr un lefel o wybodaeth â gosodwyr.
    Gellir teilwra'r sesiynau hyn i ganolbwyntio ar yr agweddau sy'n berthnasol i chi, a bydd y rhain yn pwysleisio pwysigrwydd cydymffurfiaeth i'n cwsmeriaid. Cysylltwch â ni yn WaterRegulations@dwrcymru.com i drefnu sesiwn.
  • Helpwch ni i gyflawni unrhyw archwiliadau dan y rheoliadau dŵr
    Rydyn ni'n cyflawni archwiliadau ar rai o'r safleoedd rydym yn eu cyflenwi er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r rheoliadau. Mae'r archwiliadau hyn yn rhan bwysig o'n dyletswydd i sicrhau ein bod ni'n cadw ein rhwydwaith a'n cyflenwad dŵr yn ddiogel i'n cwsmeriaid.
    Un o rannau craidd yr archwiliad yw sicrhau bod yna amddiffyniad addas rhag adlif er mwyn atal unrhyw risgiau. Gallwch wylio'r fideo byr yma sy'n dangos beth yw adlif a pham fod angen amddiffyniad i'w atal rhag digwydd ar eich system blymio:

Os cewch archwiliad a bod angen unioni pethau, yna byddwn ni'n anfon hysbysiad tor-amod atoch. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y taflenni sydd ynghlwm.

Taflenni defnyddiol

Dyma ambell i daflen sy'n cynnig rhagor o fanylion am y rheoliadau a beth y gallwch ei wneud i gydymffurfio.

$name

Polisi Gorfodi Rheoliadau Cyflenwi Dwr 2021

Lawrlwytho
150.2kB, PDF

Y Rheoliadau Dwr - Sut maen nhwn effeithio arnoch chi

Lawrlwytho
437.6kB, PDF

Y Rheoliadau Dwr Gwybodaeth i gadw eich safle amaethyddol yn ddiogel

Lawrlwytho
1.1MB, PDF

Y Rheoliadau Dwr - Gwybodaeth i Ddatblygwyr Dylunwyr a Gosodwyr

Lawrlwytho
638.8kB, PDF

Code of practice for Leakage - Non Household Customers 2020-2021

Lawrlwytho
188.2kB, PDF

Y Rheoliadau Dŵr - Sut maen nhw’n effeithio ar eich Busnes

Lawrlwytho
349.4kB, PDF

Cwestiynau pellach?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau yma.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, croeso i chi gysylltu yn WaterRegulations@dwrcymru.com a byddwn ni'n fwy na hapus i helpu.