Deall eich mesurydd dŵr
Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd masnachol a diwydiannol gyflenwadau dŵr mesuredig.
Mae’r mesurydd dŵr wrth ffin yr eiddo fel rheol, a hynny’n aml wrth ymyl y ffordd. Os oes mwy nag un prif bibell dŵr yn dod i mewn i’r eiddo dylai fod mesurydd ar bob cyflenwad. Dylai’ch mesurydd(ion) dŵr eich galluogi i fonitro eich defnydd o ddŵr ar y safle o ddydd i ddydd (yn ddyddiol, yn wythnosol neu’n fisol).
Mae cwmnïau mesuredig yn gyfrifol am y defnydd o ddŵr a gofnodir ar eu mesuryddion – gan gynnwys unrhyw wastraff a gollyngiadau. Mae’r diagram isod yn dangos mesurydd dŵr cyffredin. Mae’r rhifau gwyn yn y ‘blwch glas’ yn dangos metrau ciwbig (m3) ac mae’r digidau coch yn dangos y mesuriadau fesul 1/10fed (100 litr) ac 1/100fed (10 litr) o fetr ciwbig.
Manylebau'r Mesuryddion
PDF, 435.8kB
Mae ein dogfen Manylebau'r Mesuryddion yn cynnwys manylion llawn sy'n berthnasol i'ch mesurydd chi.
Rydyn ni'n gwybod bod ein cwsmeriaid busnes yn defnyddio amrywiaeth o wahanol fesuryddion dŵr, ac mae'n gallu bod yn anodd deall y gwahanol symbolau a'r wybodaeth ar eu sgriniau digidol.
Yn dibynnu ar y math o fesurydd sydd gennych, gallwch ffeindio llawlyfrau unigol ar gyfer y gwahanol fodelau isod.
Gobeithio bod hyn o gymorth, ond os oes unrhyw gwestiynau gennych am ddeall sgrin eich mesurydd, croeso i chi gysylltu.