Cyfrifoldeb am bibellwaith
Fel perchennog busnes neu weithiwr, mae hi’n gallu bod yn anodd gwybod pa bibellwaith yn union sy’n gyfrifoldeb i chi. Mae’r dudalen hon yn esbonio ymhle mae ein cyfrifoldeb ni’n dod i ben, ac ymhle mae eich un chi’n dechrau.
Fel y cwmni dŵr a charthffosiaeth yr ardal weithredu hon, ein cyfrifoldeb ni yw cymryd perchnogaeth a chynnal a chadw’r rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth cyhoeddus.
Fel cwsmer, chi sy’n gyfrifol am gynnal eich pibell gyflenwi dŵr breifat, y bibellwaith a’r ffitiadau mewnol a’r garthffos breifat.
Mae beth rydych chi’n gyfrifol amdano o ran eich cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth ychydig bach yn wahanol.
Y cyflenwad dŵr
O ran eich cyflenwad dŵr, mae’r diagram isod yn dangos yr ardal rydych chi’n gyfrifol amdani, sef yr holl bibellwaith a ddangosir mewn oren. Popeth oddi mewn i’r ffin â’r stryd a’r llwybr cerdded lle gosodwyd ein prif bibell ddŵr yw hyn fel rheol.
Felly os oes unrhyw ollyngiadau neu broblemau ar y bibell ddŵr oddi mewn i’r ffin yna, gan gynnwys lle mae’n rhedeg trwy dir rhywun arall, eich cyfrifoldeb chi yw hynny. Chi sy’n gyfrifol hefyd am unrhyw ddŵr sy’n pasio trwy’r mesurydd, dim ots a yw’n cael ei ddefnyddio neu ei golli.
Carthffosydd
Mae hi ychydig bach yn wahanol o ran eich cysylltiad â’r garthffos, fel y gwelwch chi yn y diagram isod. Chi sy’n gyfrifol am y pibellau sy’n casglu dŵr gwastraff o’ch eiddo yn unig sy’n gorwedd o fewn eich eiddo neu o fewn finiau eich eiddo.
Mae hi’n bwysig nodi taw’r cyngor sy’n gyfrifol am unrhyw flociadau ar safleoedd sydd o dan eu rheolaeth nhw, a blociadau mewn draeniau a gylïau ar y briffordd.
Cwestiynau cyffredin
O ran eich cyflenwad dŵr, os oes dŵr yn gollwng ar eich pibellwaith cyflenwi preifat gallai gostio’n ddrud i’ch busnes ar ffurf biliau dŵr a charthffosiaeth uwch. Cofiwch taw chi sy’n gyfrifol am drwsio gollyngiadau preifat, felly gall deall eich cyfrifoldebau a gweithredu’n gyflym arbed arian i’ch busnes.
O ran eich cysylltiad carthffosiaeth, os byddwch chi’n achosi difrod i’ch pibellwaith garthffosiaeth breifat neu’n fflysio pethau anaddas fel weips, yna gallech achosi bloc a llygredd naill ai yn eich eiddo eich hun neu yn eich cymuned leol.
Weithiau, os nad oes dŵr gennych, neu os yw pwysedd eich dŵr yn isel, gallai hynny fod am fod dŵr yn gollwng ar eich pibellwaith preifat yn hytrach nag ar y rhwydwaith cyhoeddus Os ydych chi’n amau bod y dŵr yn gollwng ar eich pibellwaith preifat, darllenwch ein cynghorion ar sut i ddod o hyd i’r broblem yma. Os oes angen, gallwch gysylltu â phlymwr cymeradwy lleol am gymorth trwy WaterSafe.
Os nad oes problem gyda’r eiddo cyfagos, yna mae’n debygol taw eich pibellau preifat chi sydd wedi’u blocio. Os oes problem gydag unrhyw un o’ch pibellau preifat, dylech gysylltu â chontractwr draenio da am gymorth. Chi neu yswirwyr eich busnes fydd yn atebol am dalu cost trwsio unrhyw ddiffygion ar y pibellwaith yma.
Os ydych chi’n credu taw cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw’r broblem, neu os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni yma. Gallwch chwilio i weld a ydyn ni'n gweithio ar broblem eisoes, neu roi gwybod i ni am broblem newydd fel y gallwn ymchwilio iddi.