Helpu eich busnes

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid busnes. Ein nod yw helpu pob sector busnes i ddefnyddio dŵr yn y ffordd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol bosibl.

Rydyn ni’n gwasanaethu dros 100,000 o gwsmeriaid busnes yng Nghymru ac mewn rhannau cyfagos o Loegr gan gydnabod bod angen i ni ddeall a gweithredu ar y sail bod ein holl gwsmeriaid yn wahanol er mwyn gwella ansawdd ein gwasanaethau.

Cymorth i dalu balans sy’n weddill

Os ydych yn cael anawsterau yn talu’r balans sy’n weddill ar eich bil dŵr, peidiwch â’i anwybyddu. Rydym yma i’ch helpu a gallwn weithio gyda chi i sefydlu cynllun talu. Llenwch ein ffurflen cais am gymorth masnachol a byddwn yn ceisio’ch ffonio o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Gwasanaethau busnes

i arbed arian i chi.

Rydym ni'n gwybod bod rheoli eich dŵr a'ch dŵr gwastraff mewn modd effeithiol yn medru gwella eich perfformiad a lleihau costau i'ch busnes. Gall hefyd wella eich amgylchedd a'ch perfformiad cynaliadwyedd.

Gweld ein gwasanaethau

Cwsmeriaid dŵr agored

eich dŵr, eich dewis.

Os ydych chi'n defnyddio mwy na 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn yna gallwch newid i Dŵr Cymru ar gyfer eich gwasanaethau dŵr glan. Gallwch gael rheolaeth cyfrif pwrpasol a gwasanaethau sy'n ychwanegu gwerth i'ch helpu chi i arbed dŵr ac arian.

Darganfod mwy