Rydym yn bodoli i wasanaethu cwsmeriaid busnes Dŵr Cymru sy'n defnyddio’r mwyaf o ddŵr ac sy'n gymwys i gymryd rhan yn y farchnad Dŵr Agored gystadleuol. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'ch safle ddefnyddio dros 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn.
Fel adran hyd braich o fewn Dŵr Cymru, mae gennym ein trwydded manwerthu dŵr ein hunain wedi'i chymeradwyo gan OFWAT. Rydym yn cael ein rheoleiddio gan reoliadau a chodau ymarfer y farchnad Dŵr Agored ac yn cydymffurfio â nhw.
Rydym yn gweithio'n annibynnol ar fusnes ehangach Dŵr Cymru, gan ddefnyddio systemau a phrosesau'r farchnad i gael mynediad at gymorth gan gyfanwerthwyr, pan fydd ei angen ar gwsmeriaid.
Rydym yn gweithio gyda ac ar ran ein cwsmeriaid. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob cwsmer yn derbyn gwasanaethau ymatebol cyflym, biliau cywir ac amserol; a sicrhau ein cefnogaeth lawn ar bob cyfle. Ein gweledigaeth yw ennill ffydd ein cwsmeriaid bob dydd.
A gan ein bod yn rhan o Dŵr Cymru rydym yn fusnes nid-er-elw. Rydym yn sicrhau bod unrhyw elw yn cael ei ail-fuddsoddi i wella ein gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid. Mae Tîm Manwerthu Masnachol Dŵr Cymru yn falch o fod yn rhan o Dŵr Cymru. Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, cwmni cyfyngedig trwy warant, sy’n berchen ar Dŵr Cymru ar ran ei gwsmeriaid.
Cysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053
Opsiynau cyswllt eraill
Cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyfanwerthu ar 0800 260 5053 neu wholesaleservicecentre@dwrcymru.com.
Cysylltwch â'r Tîm Cwsmeriaid Busnes ar 0800 260 5051 neu BCT@dwrcymru.com.