Gweld a lawrlwytho ein dogfennau, llyfrynnau a thaflenni diweddaraf.
Eich Cyfrif
Ffurflen Cwsmer Sensitif Dŵr Cymru
I ddarparu manylion cyswllt brys cywir a mwyaf diweddar, unrhyw wybodaeth iechyd a diogelwch penodol i’r safle a chyfleusterau storio ar y safle. Fel arfer, rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â chi yn ystod digwyddiadau heb eu cynllunio, a all ddigwydd y tu allan i oriau busnes arferol.
Cais am lwfans gollyngiad
Mae'r ffurflen hon i'w llenwi i wneud cais pan fydd gollyngiad tanddaearol wedi digwydd ar eich rhwydwaith preifat. Mae unrhyw lwfans a delir yn seiliedig ar elfen garthffosiaeth eich bil yn unig. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol o atgyweiriad llwyddiannus.
Mandad Debyd Uniongyrchol
I ddarparu manylion banc a chyfarwyddiadau ar gyfer trefnu debyd uniongyrchol ar eich cyfrif.
Templed llythyr awdurdodi trydydd parti
Llythyr templed i'w ddefnyddio wrth ofyn am awdurdod i gwmni trydydd parti gael mynediad at wybodaeth cyfrif neu i weithredu ar eich rhan.
Eich Dŵr Gwastraff
Lwfans Peidio â Dychwelyd i Garthffosydd
I'w gwblhau os ydych chi'n credu nad yw'r holl ddefnydd o ddŵr a gofnodwyd gan y mesurydd yn dychwelyd i'r rhwydwaith carthffosiaeth. Rhoddir lwfans o 5% fel arfer, byddai unrhyw gais yn ystyried lwfans uwch (e.e. mae dŵr a ddefnyddir drwy'r mesurydd yn cael ei ddefnyddio mewn cynnyrch neu mae anweddiad yn digwydd mewn prosesau cynhyrchu).
Ffurflen ad-daliad draenio dŵr wyneb
Dylid defnyddio'r ffurflen hon os ydych chi'n credu nad yw'r draeniad sy'n dod oddi ar eich adeiladau yn dychwelyd dŵr glaw i'r rhwydwaith carthffosiaeth. Dylid darparu cynlluniau/mapiau gyda'r ffurflen hon.
Ffurflen asesu elifion masnach
Defnyddir y ffurflen hon i ddarparu'r manylion diweddaraf am eich carthffosiaeth ddomestig. Rydym yn defnyddio'r ffurflen hon fel rhan o broses asesu ar gyfer eich cyfrif elifiant masnach. Defnyddir y manylion hyn i sicrhau bod eich biliau'n gyfredol ac yn gywir.
Cais gollwng elifion masnach
I'w gwblhau os hoffech wneud cais am ganiatâd elifiant masnach newydd.
Eich Dŵr chi
Cais Tariff Diwydiannol
Os ydych chi'n credu bod gennych un safle lle mae'r defnydd yn uwch na 50 megalitr y flwyddyn a'ch bod yn dymuno gwneud cais am fand tariff diwydiannol, cwblhewch y ffurflen hon.
Ffurflen mynediad at asedau
Ffurflen i'w llenwi gan y cwsmer (neu ei gontractwr) i ofyn am ganiatâd i gael mynediad at ased Dŵr Cymru ar gyfer unrhyw waith (e.e. i osod cofnodydd data preifat).
Datganiad gan y llofnodwr awdurdodedig
I'w gwblhau gan y person/au ag awdurdod pan fydd y cwsmer wedi gofyn am ddatgysylltiad parhaol neu dros dro o'r cyflenwad.
Thaflenni
Cynllun Taliadau 2025-2026
Dŵr sy’n Gollwng - Cod Ymarfer
Ad daliad dŵr wyneb
Customer Protection Code of Practice – Summary for Non Household Customers
Customer Protection Code of Practice for the Non Household retail market
Cysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053
Opsiynau cyswllt eraill
Cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyfanwerthu ar 0800 260 5053 neu wholesaleservicecentre@dwrcymru.com.
Cysylltwch â'r Tîm Cwsmeriaid Busnes ar 0800 260 5051 neu BCT@dwrcymru.com.