Rydyn ni'n rhoi ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Mae hynny'n golygu bod yma pan fyddwch ein hangen fwyaf, a rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth i chi.
Ynglŷn â'ch bil
-
Mesuryddion dŵr
Mae’n bosibl y gallai gosod mesurydd dŵr arbed arian i chi ar eich bil.
-
Esbonio Taliadau Mesuredig
Rhagor o wybodaeth am eich taliadau mesuredig.
-
TAW a’n gwasanaethau
Ychwanegir TAW at daliadau cyflenwi dŵr cwsmeriaid diwydiannol perthnasol sydd wedi eu diffinio o fewn adrannau 1-5 o Restr Dosbarthu Diwydiannau Safonol (SIC) 1980.
Balansau credyd
Mae ein holl filiau yn cynnwys y balans cyfredol ar eich cyfrif. Os yw'ch cyfrif mewn credyd, gallwch gysylltu â ni a gofyn i'r balans credyd hwn gael ei ad-dalu i chi. Byddai angen i chi wneud cais am y balans credyd cyn i'ch bil nesaf gael ei gyflwyno.
Ôl-filio
Byddwn bob amser yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn i ni "ôl-filio". Mae ôl-filio fel arfer yn digwydd pan fo mesurydd wedi torri ac mae angen ei ailosod, pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd ac os oes angen, yn trafod dulliau ad-dalu. Ni fyddem fel arfer yn ôl-filio mwy nag 16 mis.
Ail gyfrifo taliadau gan y cyfanwerthwr
Mewn achosion lle mae cyfanwerthwyr yn ail gyfrifo taliadau, mae'n rhaid i ni drosglwyddo'r taliad hwn i'n cwsmeriaid yn yr un gyfran ag y mae'r ail gyfrifo wedi effeithio ar eich bil. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn darparu esboniad llawn o'r ffioedd hyn.
Rheoli eich rhwydwaith
-
Cyfrifoldeb am bibellwaith
Fel perchennog busnes neu weithiwr, mae hi’n gallu bod yn anodd gwybod pa bibellwaith yn union sy’n gyfrifoldeb i chi.
-
Profi am ddŵr yn gollwng yn eich busnes
Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i annog ein cwsmeriaid i ddod o hyd i ollyngiadau, a datrys y broblem cyn gynted â phosibl.
-
Gallwch Chi Stopio'r Bloc
Weips yw’r prif beth sy’n blocio ein rhwydwaith, a dyna pam mae angen eich help chi arnom ni.
-
Effeithlonrwydd Dŵr ar gyfer eich busnes
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau a sefydliadau'n gwybod faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio, ond efallai na fyddan nhw'n defnyddio'r wybodaeth yma i'w cynorthwyo i leihau eu defnydd o ddŵr.
-
Cyngor tywydd oer ar gyfer eich busnes
Mae’n bwysig paratoi eich busnes ar gyfer misoedd oer y gaeaf. Rydym ni wedi llunio rhai awgrymiadau i wneud yn siŵr bod eich busnes yn barod.
-
Rheoliadau Dŵr ar gyfer eich busnes
Manylion y rheoliadau dŵr sy'n effeithio ar eich busnes.
-
Ailagor eich busnes
Cyngor am beth y mae angen i chi ei ystyried i sicrhau bod eich dŵr yn ddiogel i'w yfed pan fydd eich eiddo neu'ch busnes yn ailagor.
-
Posteri arbed dŵr
Dyma ambell i boster i annog eich staff a'ch cwsmeriaid i arbed dŵr.
-
Logio data
Ffordd fanwl a hyblyg o gofnodi a monitro eich defnydd o ddŵr, diogelu eiddo, a helpu i glustnodi unrhyw ddefnydd gwastraffus o ddŵr neu ollyngiadau.
Cyngor Sectoraidd
-
I Barciau Carafanau
Os ydych chi’n berchen ar, neu’n rheoli parc carafanau, dyma gynghorion defnyddiol i chi.
-
Cymorth a chyngor ar gyfer gwasanaethau addysg
Os ydych chi’n ysgol, coleg, prifysgol neu feithrinfa, dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i chi.
-
Ar gyfer ystadau diwydiannol
Os ydych chi’n rheoli ystâd ddiwydiannol neu barc busnes â nifer o unedau, neu os ydych chi’n rhan o ystâd ddiwydiannol, dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i chi.
-
Ar gyfer Swyddfeydd
Os ydych chi’n berchen ar, yn rheoli, neu’n gweithio mewn swyddfa, dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i chi
Cysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053
Opsiynau cyswllt eraill
Cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyfanwerthu ar 0800 260 5053 neu wholesaleservicecentre@dwrcymru.com.
Cysylltwch â'r Tîm Cwsmeriaid Busnes ar 0800 260 5051 neu BCT@dwrcymru.com.