Os oes mesurydd dŵr ar eich safle, byddwch yn cael bil ar gyfer y dŵr rydych wedi'i ddefnyddio dros y cyfnod bilio. Ar y dudalen hon byddwn yn egluro sut caiff eich bil ei gyfrifo ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y taliadau.

Os oes gennych fesurydd dŵr, bydd dwy ran i’ch bil – taliadau â mesurydd ar gyfer eiddo nad ydynt yn gartrefi, a thâl gwasanaeth.

Taliadau Mesuredig ar Gyfer Eiddo Nad yw’n Gartref

Gan ddefnyddio'r darlleniadau yr ydych chi’n eu rhoi i ni o'ch mesurydd dŵr, byddwn yn cyfrifo faint o ddŵr yr ydych chi wedi'i ddefnyddio ac yn codi fesul metr ciwbig*.

Dŵr - £1.4526 fesul metr ciwbig

Carthffosiaeth - £1.9534 fesul metr ciwbig

neu £1.9534 fesul metr ciwbig gydag ad-daliad dŵr wyneb.

*1000 litr neu 220 galwyn yw metr ciwbig - sy'n cyfateb i ddefnyddio’ch peiriant golchi 12 gwaith, cael 12 bath neu 28 cawod.

Cysylltu â Ni

Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.

0800 260 5051

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053