Oeddech chi'n gwybod bod gofyniad cyfreithiol ar bob safle sy'n derbyn cyflenwad dŵr gan Ddŵr Cymru i sicrhau bod eu systemau plymio'n cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999? Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i bopeth sydd ar ochr y cwsmer o'r ffin gydymffurfio.

Os nad ydych chi'n deall beth sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau, mae diagram sy'n eu hesbonio nhw isod. Dŵr Cymru sydd biau'r rhan sydd ar ochr chwith bellaf y diagram ac sy'n gyfrifol am drwsio’r rhan yma o’r pibellwaith, mae'r Rheoliadau'n berthnasol i'r ddwy ran ar y dde: eich pibellwaith cyflenwi preifat a'ch pibellwaith a'ch ffitiadau mewnol.