TAW a’n gwasanaethau


Ni chodir TAW ar wasanaethau carthffosiaeth ar hyn o bryd.

Ychwanegir TAW at daliadau cyflenwi dŵr cwsmeriaid diwydiannol perthnasol sydd wedi eu diffinio o fewn adrannau 1-5 o Restr Dosbarthu Diwydiannau Safonol (SIC) 1980:

Adran 1: Diwydiannau cyflenwi ynni a dŵr.

Adran 2: Echdynnu mwynau heblaw tanwydd; gweithgynhyrchu metel, cynnyrch mwynau a chemegolion.

Adran 3: Nwyddau metel, diwydiannau peirianneg a cherbydau.

Adran 4: Diwydiannau gweithgynhyrchu eraill.

Adran 5: Adeiladu.

Lle defnyddir y cyflenwadau ar gyfer gweithgareddau diwydiannol perthnasol a dibenion eraill, codir TAW os yw prif weithgarwch y cwsmer yn perthyn i unrhyw un o’r adrannau uchod.

Codir cyfradd o sero ar daliadau cyflenwi dŵr yr holl gwsmeriaid eraill at ddibenion TAW.

Taliadau eraill

Gellir codi TAW am wasanaethau eraill y mae’r cwmni’n eu darparu, ac amlinellir y rhain ein llyfryn Rhestr Taliadau, a byddwn ni’n hapus i ddarparu manylion pan fo cwsmer yn gofyn am ddyfynbris.