Taliadau Anfesuredig


Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn talu cost sefydlog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo. Ar y dudalen hon byddwn yn egluro sut caiff eich bil ei gyfrifo ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y taliadau.

Sut caiff fy mil ei gyfrifo?

Mae'r swm rydym yn ei godi yn wahanol ar gyfer pob safle. Rydym yn bilio o 1 Ebrill i 31 Mawrth, neu o'r dyddiad y symudoch i mewn hyd at 31 Mawrth os symudoch chi’n ddiweddar. Mae cyfradd sefydlog ar gyfer y flwyddyn yn seiliedig ar:

  • Faint y safle
  • Cyfleusterau lleol
  • Lleoliad y safle
  • Cyflwr cyffredinol

Nid ydym yn eich bilio am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, na nifer y bobl sy’n gweithio yn eich busnes. Os byddai'n well gennych gael eich bilio am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell i amcangyfrif eich defnydd a'ch taliadau ac yna gwneud cais am fesurydd ar-lein.

Taliadau Anfesuredig ar Gyfer Eiddo Nad yw’n Gartref

Mae biliau anfesuredig yn cael eu hanfon unwaith y flwyddyn ac yn dod mewn un o ddau fformat, naill ai:

Tâl Gwerth Ardrethol - bydd y bil yn cynnwys tâl sefydlog ynghyd â thâl fesul punt (£) o werth ardrethol ar gyfer y safle

neu

Dâl Gwasanaeth Unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) - mae'r taliadau'n seiliedig ar werth ardrethol cyfartalog safleoedd yng Nghymru.

Ein 2024-2025 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 107.77
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.1353
Tâl Gwasanaeth Unffurf 255.37
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 178.69
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 84.63
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.8524
Tâl Gwasanaeth Unffurf 419.50
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig 325.44
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd 143.33

Ein 2023-2024 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 120.93
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.1961
Tâl Gwasanaeth Unffurf 276.41
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 170.66
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 81.89
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.7656
Tâl Gwasanaeth Unffurf 400.19
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  311.42
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  136.67

Ein 2022-2023 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 106.99
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.0706
Tâl Gwasanaeth Unffurf 246.18
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 150.00
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 81.60
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.6517
Tâl Gwasanaeth Unffurf 364.74
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  296.34
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  105.59

Mae’r holl daliadau o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Gosodir yr holl gostau gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am ein costau defnyddio presennol, cyfeiriwch at ein crynodeb o gostau cartref:

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren Dyfrdwy, gweler eich taliadau yma.

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler eich taliadau yma.