Esbonio Taliadau Mesuredig


Os oes mesurydd dŵr ar eich safle, byddwch yn cael bil ar gyfer y dŵr rydych wedi'i ddefnyddio dros y cyfnod bilio. Ar y dudalen hon byddwn yn egluro sut caiff eich bil ei gyfrifo ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y taliadau.

Os oes gennych fesurydd dŵr, bydd dwy ran i’ch bil – taliadau â mesurydd ar gyfer eiddo nad ydynt yn gartrefi, a thâl gwasanaeth.

Taliadau Mesuredig ar Gyfer Eiddo Nad yw’n Gartref

Gan ddefnyddio'r darlleniadau yr ydych chi’n eu rhoi i ni o'ch mesurydd dŵr, byddwn yn cyfrifo faint o ddŵr yr ydych chi wedi'i ddefnyddio ac yn codi fesul metr ciwbig*.

Dŵr - £1.8366 fesul metr ciwbig

Carthffosiaeth - £2.8212 fesul metr ciwbig

 

Tâl gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cost darllen a chynnal a chadw eich mesurydd dŵr, a gosod un newydd pan fydd angen.

    Tâl gwasanaeth    
Maint y mesurydd Dŵr Carthffosiaeth (Llawn) Carthffosiaeth (Dŵr budr yn unig)  
O dan 20mm £39.43 £142.26  £69.85  
25mm £122.40 £414.11  £286.55  
30mm £215.23 £576.41  £448.85  
40mm £398.78 £851.58  £731.15  
50mm £602.05 £1,522.04  £1,401.63  
65mm £803.60 £2,447.98  £2,327.56  
80mm £1,062.46 £3,555.00  £3,434.58  
100mm £1,261.25 £6,165.87  £6,045.46  
150mm £1,620.89 £14,175.64  £14,055.21  
200mm + £1,620.89 £25,269.54  £25,149.12  

Bydd maint y mesurydd yn cael ei ddangos ar eich bil*

Mae'r holl daliadau o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026. Caiff ein taliadau eu pennu gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am ein ffioedd defnydd cyfredol, cymerwch olwg ar ein crynodeb o ffioedd ar gyfer eiddo nad ydynt yn gartref.

Os ydych yn cael eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren  Dyfrdwy, gweler eich taliadau yma.

Os ydych yn cael eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler eich taliadau yma.