Mae Tîm Manwerthu Masnachol Dŵr Cymru yn cydnabod pwysigrwydd pob unigolyn o fewn busnes ein cwsmeriaid. Byddwn yn cefnogi ein cwsmeriaid i sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu yn hygyrch i'w gweithwyr, gan gefnogi unigolion i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithlon ac yn effeithiol.
Byddwn yn:
- Cydweithio â phob cwsmer a'u gweithwyr i sicrhau ein bod yn deall eu hanghenion unigol nhw ac anghenion eu gweithwyr.
- Nodi'r llwybr mwyaf cyfleus a hwylus i ymgysylltu â ni i leihau tarfu ar eich busnes a sicrhau y cynhelir parhad gwasanaeth.
- Gan helpu pob gweithiwr i gael yr wybodaeth sydd ei angen arnynt a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu gan ddefnyddio'r sianel gyfathrebu fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.
Rydym hefyd yn cydnabod na fydd angen mynediad at wasanaethau ar bob gweithiwr yn yr un busnes, yn yr un modd. Lle bo hynny’n bosibl ac yn hyfyw, byddwn yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol pob gweithiwr. Byddwn yn trafod, addasu, ac yn cytuno ar sut y gellir darparu gwasanaethau er mwyn peidio ag amharu ar hawliau unrhyw unigolyn.
Gyda chaniatâd y cwsmer busnes ymlaen llaw, bydd ein Harbenigwyr Cwsmeriaid Bregus yn ymgysylltu â gweithwyr i nodi'r ffordd fwyaf priodol o gael gafael ar ein gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol i ddiwallu anghenion eu gweithwyr.
Gallai'r gefnogaeth hon gynnwys addasu testun presennol ar filiau, e-byst neu lythyrau neu ddefnyddio lleferydd (e.e. darllen biliau). Byddwn yn addasu ac yn darparu gohebiaeth ysgrifenedig gan ddefnyddio fformatau gwahanol, lle bo hynny'n bosibl. Er enghraifft, ar ôl ei gymeradwyo, bydd eich gweithiwr yn derbyn copi o'ch bil busnes, wedi ei addasu ar gyfer i anghenion unigol, a thrwy hynny alluogi pob gweithiwr i gyflawni eu dyletswyddau.
Pan ofynnir amdano, byddwn yn ymweld â'ch gweithiwr i drafod rhaglen gyfathrebu wedi'i phersonoli ac i gytuno arni. Byddwn hefyd yn defnyddio ein hadolygiadau rheoli cyfrifon rheolaidd i sicrhau ein bod yn cadw rhestr o weithwyr awdurdodedig a'u hanghenion penodol.
Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu i gefnogi’ch gweithwyr, a'u gofynion unigol, yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Byddwn yn cynnwys eu henwau a'u manylion cyswllt ar Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth gyfrinachol. Ni fyddwn yn cofnodi'r rheswm dros eu cais nac unrhyw wybodaeth bersonol a/neu gyfrinachol.
Byddwn yn adolygu ein rhestr gyswllt cwsmeriaid, a'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth o leiaf bob blwyddyn i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion eich gweithwyr.
Strategaeth Cwsmeriaid Agored i Niwed
Gellir dod o hyd i Strategaeth Cwsmeriaid Agored i Niwed Dŵr Cymru drwy glicio ar y botwm isod.
Cliciwch ymaCysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053