Yng Nghymru, mae safleoedd cwsmeriaid sy'n defnyddio mwy na 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn, yn gymwys i ddewis pa Fanwerthwr sy'n darparu eu biliau dŵr a'u gwasanaethau cwsmeriaid.
Os byddwch yn dewis newid Manwerthwr, byddwn yn gweithio gyda'ch Manwerthwr newydd i drafod eich cais gan gynnwys cysylltu â chi i drefnu ad-daliad y cytunwyd arno o unrhyw falansau sy'n ddyledus.
Ni fyddem fel arfer yn gwrthod cais am newid ond rydym yn cadw'r hawl i wrthod y newid am beidio â thalu balansau sy'n ddyledus a/neu beidio â chydymffurfio â rheolau'r farchnad. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i esbonio pam mae eich cais am newid wedi'i wrthod.
Mae Dŵr Agored yn farchnad gystadleuol ac efallai y bydd cwsmeriaid yn gallu newid manwerthwr neu ail-drafod eu telerau cyflenwi gyda'u manwerthwr dŵr a gallant elwa (gan gynnwys yn ariannol) o wneud hynny. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Dŵr Agored.
Cysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053