Rydym am sicrhau bod cysylltu â ni am ystod o faterion mor hawdd â phosibl, oherwydd mae gennych chi ddigon ar eich plât.

Dyna pam rydym yn darparu gwasanaethau rheoli cyfrifon pwrpasol i sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth a'r cyngor sy'n iawn ar gyfer eich sefydliad chi.

Ar gyfer eich holl ymholiadau bilio a chyffredinol, mae ein Tîm Cwsmeriaid Busnes ar gael rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae galwadau ffôn fel arfer yn cael eu hateb o fewn munud neu gallwch e-bostio am ateb ysgrifenedig o fewn 24 awr. Os na allwn ateb eich ymholiad ar unwaith, yna byddwn yn rhoi amserlen realistig ar gyfer ymateb ac yn eich diweddaru am y cynnydd ar hyd y ffordd.

Am gefnogaeth fwy ymroddedig a pwrpasol, mae ein Gwasanaeth Rheoli Cyfrifon yn darparu rheolwr cyfrif wedi'i enwi i chi am ddim. Ei rôl yw deall eich gofynion masnachu presennol ac yn y dyfodol i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyd-fynd â'ch anghenion.

O faterion bilio a rhwydwaith preifat i gefnogaeth a chyngor cyffredinol, mae ein Rheolwyr Cyfrifon profiadol yn gweithio gyda'n cwsmeriaid ar lefel gorfforaethol a gweithredol ar y safle.

Ac, ar gyfer busnesau aml-safle, bydd ein Rheolwyr Cyfrifon yn hapus i weithio gyda chi i alinio ein gwasanaethau ar draws eich holl safleoedd, gan roi'r cysondeb, yr hyder a'r sicrwydd i chi bod eich holl safleoedd yn derbyn yr un lefel o gefnogaeth a gwasanaethau, gan ei gwneud yn haws o ran adrodd ar fesurau perfformiad gweithredol.

Mae ein rheolwyr cyfrifon ar gael dros y ffôn neu drwy e-bost, ond mae'n well ganddynt gwrdd â chi ar eich safle gweithredol, gan fod hyn yn darparu'r cyd-destun a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyd-fynd â'ch gofynion sy’n benodol i’r safle.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â Ni

Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.

0800 260 5051

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053