Bydd unrhyw gwsmer busnes Dŵr Cymru sy'n defnyddio mwy na 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn yn dod yn gwsmer Dŵr Agored yn awtomatig ac yn gymwys i ddewis y manwerthwr yr hoffent ddarparu eu gwasanaethau dŵr glân, yn debyg iawn i'ch gwasanaethau nwy a thrydan domestig.
Bydd cwsmeriaid busnes sy'n penderfynu peidio â newid Manwerthwr yn parhau i dderbyn gwasanaethau manwerthu, gan Dîm Manwerthu Masnachol Dŵr Cymru, sydd wedi'i sefydlu i wasanaethu cwsmeriaid Dŵr Agored.
Bydd cwsmeriaid busnes sy'n newid Manwerthwr yn derbyn eu gwasanaethau manwerthu gan y Manwerthwr newydd a'r Manwerthwr newydd fydd eu pwynt cyswllt pwrpasol ar gyfer eu holl ymholiadau bilio a dŵr.
Cysylltu â Ni
Os ydych chi'n gwsmer Dŵr Agored gallwch gysylltu â ni yma.
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
Y tu allan i oriau: 0800 260 5053