Mae'r Cod Ymarfer Diogelu Cwsmeriaid yn rhoi manylion y lefelau amddiffyn allweddol a'r rheolau y mae'n rhaid i bob Manwerthwr yn y farchnad Dŵr Agored gadw atynt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan OFWAT.
Gallwch hefyd ddarllen fersiwn lawn o God Ymarfer OFWAT isod - mae fersiwn ffurf fer ar gael hefyd.
Sut rydym yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer
Balansau credyd
Mae ein holl filiau yn cynnwys y balans cyfredol ar eich cyfrif. Os yw'ch cyfrif mewn credyd, gallwch gysylltu â ni a gofyn i'r balans credyd hwn gael ei ad-dalu i chi. Yn ddelfrydol, byddai angen i chi wneud cais am y balans credyd cyn i'ch bil nesaf gael ei gyflwyno.
Ôl-filio
Byddwn bob amser yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn i ni "ôl-filio". Mae ôl-filio fel arfer yn digwydd pan fo mesurydd wedi torri ac mae angen ei ailosod, pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd ac os oes angen, yn trafod dulliau ad-dalu. Ni fyddem fel arfer yn ôl-filio mwy nag 16 mis.
Newid
Yng Nghymru, mae safleoedd cwsmeriaid sy'n defnyddio mwy na 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn, yn gymwys i ddewis pa fanwerthwr sy'n darparu eu biliau dŵr a'u gwasanaethau cwsmeriaid.
Os byddwch yn dewis newid manwerthwr, byddwn yn gweithio gyda'ch manwerthwr newydd i drafod eich cais gan gynnwys cysylltu â chi i drefnu ad-daliad wedi’i gytuno o unrhyw falansau sy'n ddyledus.
Ni fyddem fel arfer yn gwrthod cais am newid ond rydym yn cadw'r hawl i wrthod y newid am beidio â thalu balansau sy'n ddyledus a/neu beidio â chydymffurfio â rheolau'r farchnad. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i esbonio pam mae eich cais am newid wedi'i wrthod.
Mae Dŵr Agored yn farchnad gystadleuol ac efallai y bydd cwsmeriaid yn gallu newid manwerthwr neu ail-drafod eu telerau cyflenwi gyda'u manwerthwr dŵr a gallant elwa (gan gynnwys yn ariannol) o wneud hynny. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Dŵr Agored.
Ail gyfrifo taliadau gan y cyfanwerthwr
Mewn achosion lle mae cyfanwerthwyr yn ail gyfrifo taliadau, mae'n rhaid i ni drosglwyddo'r taliad hwn i'n cwsmeriaid yn yr un gyfran ag y mae'r ail gyfrifo wedi effeithio ar eich bil. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn darparu esboniad llawn o'r ffioedd hyn.