Eich taliadau

mesurydd dŵr

Sut rydym yn cyfrifo eich bil, a fyddwch yn ei dderbyn yn fisol, chwarterol a 6 misol yn dibynnu ar amlder eich biliau. Yma, rydym yn rhoi manylion y bil fel eich bod yn gwybod beth y codir tâl amdano, a beth sydd angen i chi ei wneud.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Sut i ddarllen eich mesurydd dŵr

Mae darllen eich mesurydd yn rheolaidd yn caniatáu i chi gadw llygad ar faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio ac yn ein helpu ni i gyflwyno biliau cywir, ond sicrhewch ei fod yn ddiogel i chi ddarllen cyn i chi wneud hynny.

Cynghorion wrth ddarllen eich mesurydd:

  • Edrychwch ar leoliad a rhif cyfresol y mesurydd ar eich bil dŵr
  • Agorwch y caead metel ar siambr y mesurydd dŵr.
  • Os oes gorchudd polystyren gwrth-rew ar ben y mesurydd, codwch e.
  • Mae caead arall ar rai o’n mesuryddion; os oes un ar eich mesurydd chi, agorwch e i weld wyneb y mesurydd.
  • Gwnewch yn siŵr bod y rhif cyfresol ar eich bil yr un fath â’r un sydd ar eich mesurydd.
  • Nodwch y rhifau gwyn ar gefndir du, neu ddu ar gefndir gwyn (nid oes angen y rhifau coch).

Ble mae’r mesurydd?

Fel rheol, bydd y mesurydd yn y ddaear o flaen eich eiddo, ar ffin yr eiddo, neu yn y palmant. Mewn ardaloedd gwledig, mae’n bosibl y bydd y mesurydd gryn bellter o’r eiddo. Os ydych chi’n ansicr ble mae’ch mesurydd, bydd disgrifiad byr o leoliad eich mesurydd ar eich bil. Am fwy o fanylion am leoliad y mesurydd cysylltwch â'r tîm ar 0800 260 5051 neu e-bostiwch BCT@dwrcymru.com.

Sut mae clirio dŵr anwedd o’r mesurydd?

Weithiau, os yw hi wedi bod yn bwrw glaw, bydd dŵr anwedd ar y gwydr ac ni fydd modd gweld y rhifau. Yma rydyn ni’n esbonio sut y dylech chi glirio’r dŵr anwedd er mwyn darllen y mesurydd.

Os oes magnet ar y mesurydd:

  • Gosodwch rywbeth metel dros y magnet.
  • Defnyddiwch y peth metel i symud y magnet yn ôl ac ymlaen dros ben y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, symudwch y magnet allan o’r ffordd a darllenwch y mesurydd.

Os oes min sychu plastig clir ar y mesurydd:

  • Symudwch y min sychu yn ôl ac ymlaen dros y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, rhowch y min sychu uwchben y rhifau fel eich bod chi’n gallu darllen y mesurydd.

Pryd byddwn yn darllen eich mesurydd

Byddwn yn darllen eich mesurydd ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis os yw amlder eich biliau yn fisol. Os cewch eich bilio bob chwarter, byddwn yn darllen y mesurydd 4 gwaith y flwyddyn, o fewn misoedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Bydd amlder chwe misol yn cael ei ddarllen o fewn cyfnod o chwe wythnos o'ch mis bilio.