Dŵr Agored
Open Water – Newidiadau i Gwsmeriaid Busnes Mawr
Ar 1 Ebrill 2017, cyflwynwyd marchnad fanwerthu fasnachol newydd er mwyn cael mwy o gystadleuaeth yn y diwydiant dŵr.
Erbyn hyn, gall rhagor o gwsmeriaid busnes ddewis eu Manwerthwr dŵr a dŵr gwastraff. Nid yw’r farchnad newydd yr un fath yng Nghymru ag y Lloegr.
Lloegr – O 1 Ebrill 2017 ymlaen, mae pob cwsmer busnes sy’n cael eu gwasanaethu gan gwmnïau dŵr sy’n gweithio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr yn cael newid Manwerthwr ar gyfer gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff..
Cymru - Yng Nghymru, mae pethau’n wahanol. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio ag ehangu’r farchnad i bob cwsmer busnes sy’n cael eu gwasanaethu gan gwmnïau dŵr sy’n gweithio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Dim ond safleoedd mwyaf cwsmeriaid Dŵr Cymru, y rhai sy’n defnyddio dros 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn, sy’n cael newid eu Manwerthwr, a hynny ar gyfer eu gwasanaethau dŵr glân yn unig.
Beth y mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid busnes Dŵr Cymru
Mae safleoedd cwsmeriaid busnes Dŵr Cymru sy’n defnyddio dros 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn yn cael newid eu Manwerthwr ar gyfer eu gwasanaethau dŵr glân. Y rhain yw cwsmeriaid Open Water Dŵr Cymru.
Mae gwasanaethau manwerthu’n cynnwys rheoli cyfrifon, gwasanaethau canolfannau galw a gwasanaethau gwerth ychwanegol fel canfod gollyngiadau a chymorth i arbed dŵr..
- Bydd cwsmeriaid busnes sy’n penderfynu peidio â newid Manwerthwr yn dal i gael gwasanaethau manwerthu gan Dîm Manwerthu Masnachol Dŵr Cymru, a sefydlwyd i ddelio â chwsmeriaid Open Water.
- Bydd cwsmeriaid busnes sy’n newid eu Manwerthwr yn cael eu gwasanaethau manwerthu oddi wrth eu Manwerthwr newydd a’r Manwerthwr newydd fydd eu pwynt cyswllt penodedig.
- Oddi mewn i’r Tîm Manwerthu Masnachol, sefydlwyd y Tîm Cwsmeriaid Busnes i fod yn bwynt cyswllt penodedig ar gyfer holl gwsmeriaid Open Water. Gellir cysylltu â nhw yn bct@dwrcymru.com neu ar 0800 260 5051
Nid yw safleoedd cwsmeriaid busnes nad ydynt yn cyrraedd y trothwy hwn yn cael newid Manwerthwr. Bydd Dŵr Cymru’n parhau i ddarparu gwasanaethau manwerthu i’r cwsmeriaid hyn. Os ydych chi’n gwsmer busnes i Dŵr Cymru ac nad oes gennych safle sy’n defnyddio dros 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn, ond yr hoffech ragor o wybodaeth am Open Water, gallwch gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Busnes ar 0800 260 5052 neu BST@dwrcymru.com
Eich Dŵr chi, eich dewis chi
I gael gwybodaeth am y farchnad newydd, gwybod pwy sy’n gymwys a chyngor am newid, ewch i www.open-water.org.uk
Os ydych yn Fanwerthwr sy’n ystyried cychwyn contract gydag ochr gyfanwerthu Dŵr Cymru, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyfanwerthu ar 0800 260 5053 neu wholesaleservicecentre@dwrcymru.com
Cysylltu â Ni
Os ydych yn Gwsmer Open Water a bod gennych gwestiynau eraill, cewch ebostio’r Tîm Cwsmeriaid Busnes yn BCT@dwrcymru.com neu lenwi’r ffurflen sydyn hon a bydd yn bleser gennym helpu. Ffôn: 0800 260 5051
Os nad ydych yn gwsmer Open Water ond bod gennych gwestiynau, gallwch gysylltu â Dŵr Cymru ar: Ffôn: 0800 052 0145