Ynni Organig


Cwmni o fewn Grŵp Glas yw Ynni Organig Dŵr Cymru a'i nod yw darparu gwerth o ynni organig yng Nghymru.

IMae'r cwmni’n gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg ac ers Ionawr 2018 mae hi wedi gweithredu dau safle yng Nghaerdydd gan gymryd gwastraff organig y ddau gyngor.

Y cyntaf o'r safleoedd hyn yw'r safle gwastraff bwyd yn ymyl Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Dwyrain Caerdydd Dŵr Cymru ar Rover Way yn Nhremorfa. Mae'r gwastraff bwyd yn cael ei brosesu trwy ddulliau treulio anaerobig. Mae'r broses yma'n cynhyrchu trydan sy'n helpu i bweru'r gweithfeydd trin cyfagos - digon o drydan i bweru 2,000 o gartrefi, a gwrtaith o safon gradd ansawdd.

Y safle arall yw'r safle gwastraff yr ardd yn Lamby Way. Yma mae gwastraff yr ardd yn cael ei brosesu trwy ddulliau rhesgompostio, sy'n cynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio at ddibenion prosiectau tirlunio ac adeiladu neu o fewn y sector amaeth.