Gwastraff Domestig


Fel cwmni, rydym yn rheoli'r gwasanaethau gwastraff domestig hylifol yng ngogledd a de Cymru, gan gynnwys ardal swydd Henffordd.

Rydym yn gweithredu system cofnodwyr data yn ein safleoedd dadlwytho gwastraff domestig ledled Cymru ac yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cwsmeriaid sydd o'r radd flaenaf, prisio cystadleuol a'r sicrwydd bod gwaredu eich gwastraff yn cydymffurfio â deddfwriaeth, ac yn diogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd.

Wrth gyflawni eich rhwymedigaethau o dan Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, mae'n ofynnol i chi feddu ar Drwydded Cludwyr Gwastraff gyfredol a dilys. Nodwch, os nad oes gennych Drwydded Cludwyr Gwastraff bydd angen i chi anfon cais am un i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ne Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a gogledd Cymru.

Ein Taliadau

Mae'r taliadau wedi'u nodi yng Nghynllun Taliadau Dŵr Cymru (2024 - 2025) ac maent fel a ganlyn:

Tâl sefydlog fesul llwyth £10.25

Gwastraff carthbwll (Hyd at 2,000 mg/L): £6.54 m3
Gwastraff tanc septig (2,000 - 20,000 mg/L): £10.84 m3
Gwastraff Domestig Arall (Mwy nag 20,000 mg/L): £15.68 m3
Yn amodol ar isafswm tâl yn seiliedig ar lwyth o 4.5 m3 (tua 1000 galwyn).

1. Nid yw'r cwmni'n darparu gwasanaeth carthffosiaeth ar gyfer casglu gwastraff tanciau carthion domestig na gwastraff carthbwll. Bydd tâl y carthbwll yn cael ei gyfyngu i waith carthffosiaeth sydd â chriw parhaol yn bresennol. Gellir cael manylion am y safleoedd hyn o'n hadran Gwasanaethau Carthffosiaeth, ffoniwch 0800 085 3968.

2. Mae’r cwmni yn cadw’r hawl i wrthod gwastraff y canfyddir bod ganddo solidau mewn daliant sy'n fwy na 20,000 mg/L.

 

Allweddi ffob

I ddadlwytho yn ein safleoedd, byddai angen i chi wneud cais am allwedd ffob ar gyfer pob cerbyd. Codir tâl o £30.00 (a TAW) yr allwedd ffob, fesul cerbyd. Ar ôl gwneud cais am allwedd ffob, caiff ei anfon drwy bost cofnodedig i'r cyfeiriad a ddarperir.


Cardiau Mynediad

O ran cardiau mynediad i gael mynediad i rai o'n safleoedd sydd â gatiau, byddai angen i chi wneud cais am gerdyn mynediad ar gyfer pob cerbyd. Codir tâl o £30.00 (ynghyd â TAW) am bob cerdyn mynediad, fesul cerbyd.


Telerau Talu

Darperir manylion y taliadau ar ôl i chi gyflwyno ffurflen gais. Ein telerau talu yw 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.


Cynefino â Safle

Nodwch fod cynefino â safle yn orfodol i bob gyrrwr ar bob safle cyn dadlwytho, a bydd angen ei adnewyddu bob 3 blynedd. Bydd hyn yn cael ei drafod ar ddiwedd y broses ymgeisio.