Prisiau Dŵr Agored


Mae tri math o brisiau dŵr a charthffosiaeth mesuredig.

Y tariff mesuredig safonol lle darperir cyflenwad dŵr trwy fesurydd ar sail ein telerau ac amodau safonol. Fel arfer, cyfrifir y prisiau carthffosiaeth ar sail y rhagdybiaeth fod 95% o’r dŵr a gofnodir drwy’r mesurydd yn mynd i’r carthffosydd. Os ydych chi’n credu bod llai na 95% o’r dŵr yn mynd i’r carthffosydd, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd CF23 5WL.

Os nad yw’n ymarferol, neu os yw’n rhy ddrud i osod mesurydd, gallwn godi pris mesuredig ar sail asesiad.

Gall cwsmeriaid ddewis pris diwydiannol os ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr ar un safle ac/neu yn gwaredu 100Ml neu ragor o garthion y flwyddyn o un safle. Os ydych chi’n credu y gallech elwa o dalu’r prisiau hyn, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd CF3 5WL.

Bydd masnachwyr â chytundeb i waredu elifiant masnachol i’r carthffosydd cyhoeddus yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn talu ein tariff elifiant masnachol. Bydd hyn naill ai ar ein tariff safonol, neu’r tariff diwydiannol os ydych yn gwaredu 100Ml neu ragor o garthion o un safle. Os ydych chi’n credu y gallech elwa o dalu’r prisiau hyn, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd, CF3 5WL.

Generic Document Thumbnail

Industrial Tariff Application

PDF, 40.6kB