Taliadau busnes


Mae tri math o brisiau dŵr a charthffosiaeth mesuredig.

Ein Prisiau

Y tariff mesuredig safonol lle darperir cyflenwad dŵr trwy fesurydd ar sail ein telerau ac amodau safonol. Fel arfer, cyfrifir y prisiau carthffosiaeth ar sail y rhagdybiaeth fod 95% o’r dŵr a gofnodir drwy’r mesurydd yn mynd i’r carthffosydd. Os ydych chi’n credu bod llai na 95% o’r dŵr yn mynd i’r carthffosydd, lawr lwythwch y ffurflen gais am dychwelyd i'r ffurflen lwfans carthffosydd sydd ddim yn mynd yn ôl i'r system, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd CF23 5WL.

Os nad yw’n ymarferol, neu os yw’n rhy ddrud i osod mesurydd, gallwn godi pris mesuredig ar sail asesiad.

Gall cwsmeriaid ddewis pris diwydiannol os ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr ar un safle ac/neu yn gwaredu 100Ml neu ragor o garthion y flwyddyn o un safle. Os ydych chi’n credu y gallech elwa o dalu’r prisiau hyn, lawr lwythwch y ffurflen gais am dychwelyd i'r ffurflen lwfans carthffosydd sydd ddim yn mynd yn ôl i'r system, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd CF3 5WL.

Generic Document Thumbnail

Dychwelyd i'r ffurflen lwfans carthffosydd sydd ddim yn mynd yn ôl i'r system

PDF, 118kB

Bydd masnachwyr â chytundeb i waredu elifiant masnachol i’r carthffosydd cyhoeddus yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn talu ein tariff elifiant masnachol. Bydd hyn naill ai ar ein tariff safonol, neu’r tariff diwydiannol os ydych yn gwaredu 100Ml neu ragor o garthion o un safle. Os ydych chi’n credu y gallech elwa o dalu’r prisiau hyn, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni yn: Blwch Post 690, Caerdydd, CF3 5WL.

Generic Document Thumbnail

Ffurf tariff diwydiannol

PDF, 41.8kB

Ni chodir TAW am wasanaethau carthffosiaeth ar hyn o bryd.

Caiff TAW ei ychwanegu at brisiau cyflenwi dŵr cwsmeriaid diwydiannol perthnasol. Diffinnir y rhain yn adrannau 1–5 o Restr Ddosbarthu Diwydiannol Safonol 1980 (SIC):

Adran 1: Diwydiannau sy’n cyflenwi ynni a dŵr.

Adran 2: Echdynnu mwynau ac eithrio tanwydd; gweithgynhyrchu metelau, cynnyrch mwynau a chemegolion.

Adran 3: Nwyddau metel, peirianneg a diwydiannau cerbydau.

Adran 4: Diwydiannau gweithgynhyrchu eraill.

Adran 5: Adeiladu.

Os yw’r cyflenwadau ar gyfer y gweithgareddau diwydiannol perthnasol a gweithgareddau eraill hefyd, codir TAW os yw prif weithgarwch y cwsmer yn dod o fewn yr adrannau uchod.

Mae’r prisiau cyflenwi dŵr ar gyfer pob cwsmer arall ar raddfa sero at ddibenion TAW.

Taliadau eraill

Gellir codi TAW am y gwasanaethau eraill a ddarperir gan y cwmni. Amlinellir y rhain yn ein llyfryn Cynllun Taliadau a byddwn yn hapus i roi manylion os gwneir cais am ddyfynbris.