Profi am ddŵr yn gollwng yn eich busnes


Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i bibellau sy’n gollwng neu’n byrstio a’u rheoli yn safle eich busnes.

Pam mae gollyngiadau’n digwydd?

Weithiau mae gollyngiadau’n digwydd a gall hyn fod oherwydd oedran y bibell, ffitiadau neu gymalau sy’n gollwng a symudiad yn y tir.

Arwyddion y gallai fod dŵr yn gollwng yn eich busnes

Rydym eisiau gwneud pob dim yn ein gallu i annog ein cwsmeriaid i adnabod a thrwsio gollyngiadau mor gyflym â phosibl. Mae hyn yn ein helpu i leihau gollyngiadau ac yn eich helpu i arbed symiau mawr o arian o bosibl.

Mae’n bosibl bod gennych ddŵr yn gollwng os ydych yn sylwi:

  • Ardaloedd o lystyfiant ir
  • Cwymp mawr mewn pwysedd dŵr
  • Sŵn hisian yn agos at y stoptap mewnol
  • Mannau llaith ar y ddaear
  • Newid annisgwyl i’ch bil.

Yn gyffredinol, mae gollyngiadau ar safle busnes naill ai’n fewnol neu’n danddaearol. Mae gollyngiadau mewnol yn yr adeiladau eu hunain ac yn aml yn haws eu canfod. Mae arwyddion yn cynnwys tapiau sy’n gollwng.

Mae gollyngiadau tanddaearol yn anoddach eu canfod ac mae arwyddion yn aml yn cynnwys mannau llaith, dŵr yn cronni ac ardaloedd llystyfiant ir.

Sut i brofi am ddŵr yn gollwng

Dilynwch y 5 cam syml:

  1. Dewch o hyd i’ch mesurydd dŵr, sydd fel arfer yn eich llwybr troed y tu allan i’ch safle. Os yw’n ddiogel gwneud hynny, ewch i mewn i’r siambr a chymryd darlleniad. Os ydych yn cael problemau’n dod o hyd iddo, mae lleoliad a rhif cyfresol eich mesurydd i’w gweld ar eich bil.
  2. Diffoddwch unrhyw ddyfeisiau sy’n defnyddio dŵr ar eich safle. Os yw’r deialau ar y mesurydd yn symud, mae’n debyg bod gennych ollyngiad.
  3. Nesaf, dewch o hyd i’ch stoptap mewnol, sydd fel arfer ar eich safle lle mae’r dŵr yn dod i mewn i’ch adeilad. Caewch y stoptap drwy ei droi i gyfeiriad y cloc. Darllenwch y mesurydd eto, ac os yw’r deialau’n dal i symud, mae’n bosibl bod gennych ollyngiad ar y bibell sy’n mynd o’r mesurydd i’r stoptap.
  4. Os nad yw’r deialau’n symud, efallai fod eich gollyngiad yn eich pibau neu ffitiadau mewnol. Os yw’n ollyngiad mewnol, gallech gynnal asesiad gweledol o fannau gollwng cyffredin fel tapiau, toiledau a gorlifau tanc. Fodd bynnag, efallai bydd y gollyngiad wedi’i guddio yn adeiledd y safle.
  5. Os yw’n ollyngiad allanol, gallech gynnal asesiad gweledol o’r tir o fewn eich ffin am fannau gwlyb neu wedi â difrod annisgwyl.

Cwestiynau Cyffredin