Pibellau wedi'u rhewi yn eich busnes


Os nad oes cyflenwad dŵr gennych yn ystod y tywydd oer, neu os yw pwysau'r dŵr wedi gostwng fel taw diferion yn unig gewch chi o'r tap, peidiwch â mynd i banig.

Beth ddylech ei wneud os yw'ch pibellau wedi rhewi?

  • Ffeindiwch eich stoptap mewnol a'i gau.
  • Draeniwch y system dŵr oer trwy fflysio'r tŷ bach a rhedeg y tapiau dŵr oer i mewn i'r sinc.
  • Archwiliwch y pibellau am arwyddion o ddifrod, ac os yw'n ddiogel gwneud hynny, ceisiwch ddadmer y bibell sydd wedi rhewi gan ddefnyddio poteli dŵr poeth neu dywelion wedi eu gwlychu mewn dŵr poeth, gan ddechrau ar ben y bibell. Peidiwch byth â defnyddio fflam agored neu lamp losgi i ddadmer y bibell.
  • Agorwch y stoptap eto, a gwnewch yn siŵr bod y dŵr yn llifo.
  • Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth, unrhyw bryd, ffoniwch blymwr cofrestredig.

Beth ddylech ei wneud os oes pibell wedi byrstio?

  • Ceisiwch ganfod ymhle mae'r twll - a datgysylltwch y cyflenwad trwy droi'r stoptap yn glocwedd..
  • Open all taps to reduce flooding and soak up or block off escaping water with thick towels
  • Agorwch yr holl dapiau er mwyn lliniaru effaith y llifogydd, a defnyddiwch dywelion trwchus i amsugno neu atal unrhyw ddŵr sy'n gollwng.
  • Diffoddwch offer trydan: os yw'r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu offer - peidiwch â chyffwrdd â nhw. Mae gwifrau trydan sy'n cael eu difrodi gan ddŵr yn gallu bod yn beryglus dros ben, a bydd angen i chi ffonio rhywun proffesiynol i drwsio'r difrod yn fwy na thebyg.
  • Symudwch unrhyw stoc neu offer busnes a allai fod mewn perygl.
  • Ffoniwch blymwr cofrestredig.

Os na allwch neilltuo'r cyflenwad trwy gau'r stoptapiau yn eich eiddo, mae'n bosibl y byddwn ni'n gallu helpu os oes stoptap allanol ar eich eiddo. Cysylltwch â ni. Peidiwch â cheisio defnyddio ein stoptap allanol.

Pwy sy'n gyfrifol am drwsio'r broblem?

Pibellau sydd wedi rhewi ar eich eiddo Os yw'r pibellau yn eich cartref neu'ch gardd wedi rhewi, eich cyfrifoldeb chi yw hi. Bydd angen i chi alw plymwr cofrestredig. Mae rhestr o blymwyr cofrestredig Watersafe yma.

Burst of leak pipe welsh

Beth ddylech chi ei wneud os nad oes dŵr gennych?

Os nad oes cyflenwad dŵr gennych yn ystod y tywydd oer, neu os yw pwysau'r dŵr wedi gostwng fel taw diferion yn unig gewch chi o'r tap, peidiwch â mynd i banig.

  • Ewch i'r dudalen Yn eich Ardal. Os oes problem yn eich ardal a'n bod ni eisoes yn gweithio i'w datrys, bydd y manylion yno.
  • Holwch i ganfod a yw'r broblem yn effeithio ar safleoedd cyfagos hefyd. Os yw hi, ond nad yw'r broblem ar ein tudalen Yn Eich Ardal, rhowch alwad i ni fel y gallwn geisio datrys y broblem cyn gynted â phosibl.
  • Os taw chi yw'r unig un heb gyflenwad dŵr, mae'n ddigon posibl bod y pibellau wedi rhewi ar eich safle.

Gofalwch am eich carthffosydd

Mae fflysio unrhyw beth heblaw papur tŷ bach, a rinsio braster a saim i lawr y sinc yn gallu atal y carthffosydd rhag llifo'n rhydd, ac mae tywydd oer yn gallu dwysáu'r broblem. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy fynd yma.