Mesurydd Dŵr


Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd masnachol a diwydiannol gyflenwadau dŵr mesuredig.

Mae’r mesurydd dŵr wrth ffin yr eiddo fel rheol, a hynny’n aml wrth ymyl y ffordd. Os oes mwy nag un prif bibell dŵr yn dod i mewn i’r eiddo dylai fod mesurydd ar bob cyflenwad. Dylai’ch mesurydd(ion) dŵr eich galluogi i fonitro eich defnydd o ddŵr ar y safle o ddydd i ddydd (yn ddyddiol, yn wythnosol neu’n fisol).

Mae cwmnïau mesuredig yn gyfrifol am y defnydd o ddŵr a gofnodir ar eu mesuryddion – gan gynnwys unrhyw wastraff a gollyngiadau. Mae’r diagram isod yn dangos mesurydd dŵr cyffredin. Mae’r rhifau gwyn yn y ‘blwch glas’ yn dangos metrau ciwbig (m3) ac mae’r digidau coch yn dangos y mesuriadau fesul 1/10fed (100 litr) ac 1/100fed (10 litr) o fetr ciwbig.

Gwneud Cais

am Fesurydd

I wneud cais am fesurydd, mae angen i chi fod y sawl sydd wedi ei gofrestru i dalu biliau neu'r tenant sy'n talu am ddŵr i Gyngor neu Gymdeithas Dai leol.

Gwneud cais